Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 59941 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Bywyd a gwaith John Eilian

Allbrint o grynodeb o fywyd a gwaith John Eilian a luniwyd gan ei fab Goronwy Tudor Jones yn Saesneg. Fe'i diweddarwyd ganddo yn 2022.

Teyrngedau

Copi o deyrnged Gwynne Williams i Dewi Stephen Jones a gyhoeddwyd yn Nene, papur bro ardal Rhosllannerchrugog, Mawrth 2019; ‘Remembering Dewi Stephen Jones for his Archive’ gan Anne Stevenson, 20 Gorffennaf 2019, ynghyd â ffotograff du a gwyn ohono; a ‘The wrekin’, cyfieithiad gan Anne Stevenson o gerdd Gymraeg gan Dewi Stephen Jones, a soned ‘Caring more than caring’ ganddi, a gyhoeddwyd yn ei chyfrol Astonishment (Bloodaxe Books, 2012), wedi'i chyflwyno iddo.

Barddoniaeth

Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol: 'Porth'; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Olion’; englyn unodl union: ‘Llwybr Arfordir Cymru'; englyn ysgafn: Cawdel/Llanast’; telyneg: ‘Heddwch’; cywydd hef fod dros 24 o linellau: ‘Bae’; soned: ‘Esgidiau’; filanél: ‘Breuddwyd’; pum triban i’r synhwyrau; chwe limrig: ‘Cwynion’; cyfansoddi cerdd i’w llefaru ar lwyfan gan bobl ifanc 12-16 oed; deg cyfarchiad mewn cardiau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron; a hyd at ugain o gerddi sydd yn waith gwreiddiol a newydd gan yr awdur (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg).

Rhyddiaith

Stori fer: ‘Gofod’; llên micro: Casgliad o wyth darn: ‘Gwesty’; ysgrif: ‘Trobwynt; dyddiadur dychmygol beirniad Eisteddfod; casgliad o erthyglau i bapur bro; casgliad o hyd at 30 o enwau lleoedd unrhyw ardal, pentref neu dref yng Nghymru; taith dywys i gyflwyno ardal; darn ffeithiol creadigol; adolygiad o waith creadigol sydd wedi ymddangos yn ystod yr unfed ganrif ar hugain; a dwy erthygl sy’n addas i’w cyhoeddi yn Y Casglwr.

Dysgwyr

Cerdd: ‘Pellter’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Darganfod’ (tlws rhyddiaith); llythyr i’w roi mewn capsiwl amser; Fy hoff Ap.; sgwrs rhwng 2 berson dros y ffens; darn i bapur bro yn hysbysebu digwyddiad; gwaith grŵp neu unigol; a thasgau dosbarth yn seiliedig ar dair cân Gymraeg (gwaith unigol).

Cyfansoddiadau cerddorol

Gosodiad dan 25 oed ar y geiriau 'Tymhorau' gan Dewi Jones; darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Cen Williams; darn rhwng 4 a 6 munud i ensemble siambr o unrhyw offerynnau; darn i gôr plant/ieuenctid SSA/SAB; darn i gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm o'r archif Sgrin a Sain y Llyfrgell genedlaethol gyda'r ffilm ar y thema gofod a/neu sêr; a chân werinol ac acwstig ei naws (Tlws Sbardun).

Canlyniadau 1 i 20 o 59941