Dangos 165 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol, 1921-[1928], a anfonwyd gan T. Eirug Davies i'r Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â thystysgrifau, 1921-1930, a thorion o'r wasg, 1932-1936, yn ymwneud â'i lwyddiant fel bardd y goron a beirniad.

Dyddiaduron

Dyddiaduron T. Eirug Davies, 1914-1951, yn cynnwys ychydig o gofnodion am ei ddyletswyddau fel gweinidog yn bennaf.

Printiedig

Adolygiadau ac ysgrifau gan Tegla Davies ac eraill a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, ynghyd ag eitemau printiedig, 1908-[1967].

Personalia

Llythyrau cydymdeimlad ar farwolaeth Tegla Davies, torion o deyrngedau iddo a phapurau'n ymwneud â dadorchuddio plac iddo ar ei gartref.

Y Faner

Papurau, [1957]-1972, yn deillio o'i gyfnod fel golygydd Y Faner.

Gwledda canoloesol a Rhyl Operatic Society,

Casgliad o ganeuon, wedi'u trefnu neu eu cyfansoddi ar gyfer perfformiadau yn y Gwleddoedd Canoloesol poblogaidd a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun. Hefyd darnau a berfformiwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur y Rhyl pan fu Gilmor yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Gohebiaeth

Llythyrau T. Eirug Davies, [1912]-1979, yn cynnwys llythyrau oddi wrth ei ddarpar wraig Jennie Thomas; llythyrau yn ymwneud â’i waith fel golygydd Y Dysgedydd a llythyrau yn cydymdeimlo ag ef ar farwolaeth ei wraig yn 1948.

Cerddi

Llyfrau nodiadau, [1947]-[1980], yn cynnwys cerddi a luniodd yn blentyn ac yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Cerdd dant,

Gosodiadau cerdd dant gan Gilmor Griffiths, sgorau mewn llawysgrif, brasluniau a chopïau. Y rhan fwyaf gyda geiriau.

Canlyniadau 1 i 20 o 165