Dangos 59941 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. H. Reese, Swydd Durham,

Diolch am ddarllediad grymus. Mae W. H. Reese yn heddychwr ond y mae hefyd yn sylweddoli'r rheidrwydd o rwystro'r anifail gwyllt ar y Cyfandir rhag difa pawb. Mae'n bwriadu cyhoeddi llyfr bychan o gerddi rhyfel Medi'r Corwynt ymhen rhyw fis. Bydd yn anfon copi at W. J. Gruffydd er mwyn iddo ei adolygu yn Y Llenor.

W. H. Harris, Llanbedr Pont Steffan,

Cafodd flas ar wrando araith W. J. Gruffydd yn yr Eisteddfod ar y prynhawn Iau. Yr oedd pob gair yn wirionedd. Y mae penodiad Llanbedr yn 'enghraifft ysgeler' o'r sefyllfa. Roedd yn flin ganddo ddarllen beirniadaeth golygydd y Western Mail ar yr araith. Gwnaethpwyd y penodiad yn Llanbedr yn nannedd dymuniadau Cymru gyfan a chorff cyffredinol yr Eglwys. 'Yr oedd tri Sais a bradwr neu ddau o Gymro yn ddigon i herio Cymru gyfan'.

W. H. Harris, Coleg Dewi Sant, Llanbedr,

Amgau copi o'r Ffydd yng Nghymru [nis cynhwysir], sylwadau ar grefydd yng Nghymru, ynghyd â llyfryddiaeth yn ymwneud â 'Mudiad Rhydychen' a luniwyd gan y gohebydd.

W. Gwenlyn Evans,

Caxton Printing Works, Caernarfon. Anfon prisiau argraffu tocynnau a phosteri.

W. Griffiths,

Cwmni Foyle, Llundain. Yn diolch am lythyr Winnie Parry ac yn rhoi sêl ei fendith i'r BBC ddefnyddio Y Ddau Hogyn Rheiny ar gyfer darlledu. Saesneg/English.

W. Goscombe John ar '(1) High relief in plaster of Hwfa Môn or Joseph Parry, (2) Model of wall fountain ...,

W. Goscombe John ar '(1) High relief in plaster of Hwfa Môn or Joseph Parry, (2) Model of wall fountain (3) Plaster panel in low relief'. Dyfarnwyd y gwobrau i 'Alto' (1) (A. Wilson Jagger, Caerdydd), 'Bangor' (2) (George Dumph, Bae Colwyn) a 'Timber' (3) (Charles Jages, Caerdydd) [rhifau 1, 2 a 4 yn y Rhestr Testunau - Cerfluniaeth].

W. Glynne, Durham,

Mae'n deall bod W. J. Gruffydd yn gweithio ar argraffiad newydd o'r Testament Cymraeg. Y mae ef wedi bod yn gweithio ar yr Efengylau ers 30 mlynedd. Mae'n cynnig ei waith at ddefnydd W. J. Gruffydd a'r pwyllgor. Mae'n rhoi crynodeb o'i hanes.

Canlyniadau 3841 i 3860 o 59941