Dangos 59941 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. Lewis Jones ac 'Owen Rhoscomyl' ar 'Three Short Stories illustrative of Welsh Life in the early part of the ...,

W. Lewis Jones ac 'Owen Rhoscomyl' ar 'Three Short Stories illustrative of Welsh Life in the early part of the Nineteenth Century' ynghyd â llythyr oddi wrth 'Owen Rhoscomyl' [at ysgrifenyddion yr Eisteddfod] yn esbonio nad oedd yn ymwybodol fod trydedd gwobr ar gael ac nad oedd ef a'i gyd feirniad wedi penderfynu ar enillydd [rhif 8 yn y Rhestr Testunau - Rhyddiaith].

[W. J.GRUFFYDD, Penarth, at D. J. Williams, Abergwaun],

Mae'n ymddiheuro am anfon llythyr Saesneg, nid yw ei ysgrifenyddes yn deall Cymraeg. Nid yw'n gallu deall safbwynt D. J. Williams yngl?n â'r rhyfel. Rhaid iddo dderbyn mai dyna yw ei safbwynt fel y wraig a fethai gredu bod y fath anifail i gael â jiraff. Bwriedir ei sylwadau yn Y Llenor ar gyfer rhai â dipyn llai o grebwyll na D. J. Williams. Yr unig beth sydd yn ei boeni ar hyn o bryd yw sut i achub Cymru, gweddill Prydain, a gweddill y byd oddi wrth bwerau y credid iddynt gael eu concro ddwy fil o flynyddoedd ynghynt. Mae ei holl fryd ar ffoi oddi wrth y sefyllfa, ond ni fydd hynny ond osgoi cyflafan fawr. Cofio at Mr D. J. Williams. Hoffai ymweld â hwy yn fuan i fod ymhlith pobl a all fod yn ddifrifol ac yn llawen. Copi teipysgrif.

W. Jenkyn Thomas, Llundain, WC1,

Ceisio perswadio W. J. Gruffydd i'w gefnogi yn ei ymgais i wrthwynebu ffafriaeth a llwgrwobrwyo wrth wneud apwyntiadau addysgol. Mewn cyswllt arall hoffai nodi ei falchder o ddarllen sylwadau diweddar W. J. Gruffydd am ei hen gyfaill Trevor Owen a'r gwaith da a wnaeth fel y prifathro cyntaf i gael ei apwyntio i'r system Addysg Ganolraddol Gymreig.

W. Jenkyn Thomas ar y traethawd 'Morals and Manners as reflected in the Welsh Penillion Telyn'. Dyfarnwyd y wobr i ...,

W. Jenkyn Thomas ar y traethawd 'Morals and Manners as reflected in the Welsh Penillion Telyn'. Dyfarnwyd y wobr i 'Allfro' [y Parch. D. D. Williams, Manceinion]. [Gwelir y traethawd buddugol 'Moesau ac Arferion yn ôl y Penillion Telyn' yn llawysgrif LlGC 19129D].

W. J,

Llanrwst. Cerdd 'Dyfodiad y Bus i Nebo'.

W. J. Roberts,

Bolton. Hanes teulu Drws-y-Coed yn ddiddorol - yntau wedi gweld y dabled ar yr hen dy a'r ysgrifen. Amgau'r nodiad. Amgau hefyd ysgrifen ar dabled yn Llanbadarn Fynydd yn sôn am rhyw "weighing machine".

W. J. Roberts,

Deiniolen. Ateb ymholiad ynglyn ag awdur yr emyn "Bendithiaist goed y meysydd".

Canlyniadau 3721 i 3740 o 59941