Dangos 60064 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am Bangorfab. Anfon englynion buddugol eisteddfod Ro Wen o'i eiddo at Carneddog.

Ap Cenin (John Roberts),

Llanfairfechan. Sôn am amryw gymeriadau a digwyddiadau; casgliad o lyfrau; Ianto Soch; a rhagrith crefyddwyr. Yn amgaeedig ceir saith cerdd gan feirdd anhysbys.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Canmol Carneddog. Sôn am Robin Owen a Bob Owen. Stori am Lyn Eigian, Sam Jones, trip i Lerpwl. Ôl-nodyn yn dweud fod ei wraig wedi cael canpunt.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Problem Carneddog i gael ei arian am y cyfrolau o Cerddi Eryri. Ceir dau englyn o waith Ap Cenin a chopi o'r gân gyntaf iddo ennill arni.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Hanes afiechyd y teulu a diflastod Ap Cenin. Sôn ychydig am ei gerddi a cheir englyn o'i waith.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Diolch i Garneddog am 'gildwrn' a'i gydymdeimlad. Sôn am afiechyd y teulu. Dywed iddo anfon englyn a thelyneg i Eisteddfod Utica. Cynnwys yr englyn.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am ei dlodi, sôn am ei fam - gydag englyn coffa iddi, ei awen - ceir englyn arall ganddo i 'Fam'.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Afiechyd ei wraig. Llongyfarch Carneddog ar ennill yn Eisteddfod ?Beddgelert. Ceir hanes Robert Jones ac ambell gymeriad arall.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Hanes eisteddfod Llanfairfechan gydag englyn byrfyfyr buddugol gan Ap Cenin ac epigram o'i waith ar gyfer y dosbarth Cymraeg. Ceir hanes ei ethol ar yr UDC.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am eisteddfodau, pen blwydd ei ferch, Robin Owen, ei deulu, a Sam Jones ei hen gyfaill, a stori am fwgan.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn eto am iechyd ei wraig. Ceir hanes ei daith drwy Ogledd Cymru mewn modur. Ceir englyn buddugol i'r 'Emyn' ac un byrfyfyr gan yr Ap.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Trafod ei waith gan amgau canmoliaeth Cynan allan o bapur newydd. Trafod ei awen gan gynnwys englynion byrfyfyr.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Afiechyd ei wraig. Llongyfarch Carneddog ar ennill cadair ?Eisteddfod Beddgelert. Disgrifio ei daith gyda'r dosbarth Cymraeg i ardal Elis Wynne.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Diolch i Carneddog am gyhoeddi rhannau o'i lythyron. Sôn am ambell gymeriad, afiechyd ei wraig a'i dristwch o golli ei ferch.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am W. O. Roberts. Trafod ei waith a'i awen gydag englyn i'r 'Aderyn To'. Sôn am ei hiraeth a rhigwm i Tilly (anghyflawn).

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Ceir rhigwm yn aros llythyr gan Carneddog. Trafod ei lawysgrifen ef ac Eifionydd; rhai englynion buddugol yn Eisteddfod y Ro Wen.

Ap Cenin [John Roberts],

Trafod barddoniaeth allan o hen gyfrol a fu yn eiddo i Ap Cenin. Hanes ei ymweliad â Thanygeulan yn bennaf.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am ymholiad gan Ifor Davies, Penmaenmawr, ynglyn â Iago Glan Gyrach yn bennaf.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Siarad am ei afiechyd. Ceir dau englyn i'r 'Cyfnos' ganddo. Sôn am ambell gyfaill e.e. Ifor E. Davies, 'J.E.' ac englyn o waith yr olaf.

Canlyniadau 2241 i 2260 o 60064