'Anthropos' mewn teipysgrif ac R. Dewi Williams ar y 'Traethawd yn Gymraeg ar unrhyw destun yn null yr "essays" Seisnig' [rhif 33 yn y Rhestr Testunau].
Rhosymedre. Mae'n hysbysu ei dad ei fod yn iach ond yn hiraethu am ei weld. Mae wedi cyfansoddi tri o benillion iddo ac yn gofyn am feirniadaeth yn ôl. Mae'n cynnwys pennill hefyd i 'Llugwy' [Y Parchedig Robert Llugwy Owen, (1836-1906)].
Amwythig. Mae'n dweud bod ganddo het bellach ond fe fyddai'n ddiolchgar am swllt neu ddau. Mae'n hoffi ei le fwyfwy ac yn cael gwell chwarae teg nag a gafodd yn Acrefair. Disgrifio tegwch tref Amwythig. Byddai'n dda ganddo glywed bod ei dad wedi ymuno ag eglwys Duw.
Bala. Dywed mai yr arholiad yw'r rheswm am ei ddistawrwydd. Mae dillad ei dad wedi cyrraedd ac y mae yn eu hanfon ato. Nid yw'n hoffi'r gôt. Mae hi'n rhy gwta iddo ac nid yw'r toriad yn gweddu iddo. Mae'n gobeithio bod ei dad yn hoffi Manceinion o hyd.
Amwythig. Mae'n dda ganddo glywed bod ei fam yn weddol iach a bod ei dad yn gwella. Mae'n gobeithio mynd adref y mis canlynol gan fod arno hiraeth mawr am bobl ac ardal Tyn-y-cefn.
Amwythig. Mae ei gefn wedi gwella. Mae'n mynychu Ysgol Nos ddwywaith yr wythnos. Mae wedi prynu cot ucha newydd ac mae arian yn brin. [Llun amgaeedig].