Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Emrys, Dewi, 1881-1952 Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau a phersonalia

Cyfrol ar gyfer arddangos cardiau Nadolig ond a ddefnyddiwyd ar gyfer cadw llythyrau a dogfennau pwysig yn ymwneud â'i yrfa academaidd a chyhoeddus. Ceir gwahoddiadau i ymweliadau brenhinol â Chymru, 1937, 1953, 1960; rhaglen cyhoeddi Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, 1960; rhaglen seremoni dadorchuddio cofeb Dewi Emrys ym Mhwllderi, 1961; a gwahoddiadau i fyrbrydau'r Eisteddfod Genedlaethol. -- Ceir hefyd bapurau'n perthyn i'w fab y Canon Geraint Vaughan-Jones yn y gyfrol, gan gynnwys rhaglen ordeinio neu gysegru Dr Barry Morgan yn Esgob Bangor, 1993; emynau a ysgrifennwyd gan Geraint Vaughan-Jones, 1982 a 1989, ar gyfer Gŵyl Eglwysi Tydecho; llythyrau, 1984, 1986, 1989, oddi wrth Cledan, Esgob Bangor, yn ymwneud â'i yrfa yn Esgobaeth Bangor; ynghyd â thorion o'r wasg, Blewyn Glas, Rhagfyr 1990, papur bro ardal Machynlleth, yn cynnwys erthygl 'Nabod cymeriad' am Geraint Vaughan-Jones; a thaflenni eraill a gasglwyd ganddo.

Papurau T. Ll. Stephens,

  • GB 0210 TLLSTEPHENS
  • fonds
  • 1928-1959 /

Papurau T. Ll. Stephens, 1928-1959, yn cynnwys yn bennaf cyfansoddiadau llenyddol, a hefyd papurau'n ymwneud ag addysg, addysg ddwyieithog a Dewi Emrys, ynghyd a grŵp bach o lythyrau a phapurau eraill Dewi Emrys,1940-1953 = Papers of T. Ll. Stephens, 1928-1959, mainly comprising his literary compositions, and also including papers relating to education, bilingual education and Dewi Emrys, together with a small group of letters and other papers, 1940-1953, of Dewi Emrys.

Stephens, Thomas Llewellyn.