Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig
- P1/5
- File
- 1987-1989
Part of Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, agenda, a nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1988; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1987-1988 (1988); adroddiad ariannol 1987-1988 (1988); a manylion ysgoloriaeth goffa Y Foneddiges Amy Parry-Williams [1989]. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; John Rhys; R. Geraint Gruffydd; Gareth Owen; David Dykes; J.G. Rees; D. Simon Evans; ac M.A.R. Kemp.