Amryw bapur rhydd Plaid Cymru, gan gynnwys teipysgrif o ganlyniadau etholiadau, 1929-1955; cerdyn cinio ffarwel i Noëlle Davies, 1957; rhaglen cyngerdd Gŵyl Dewi Coleg Hyfforddi Caerdydd, 1961; memorandum gan Ray Smith, trefnydd De Cymru, i'r Pwyllgor Gwaith yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963; 'bras nodiadau' teipysgrif yn galw am fudiad newydd i ferched yng Nghymru, [1960au?]; cyfansoddiad Adran y Merched, mewn cynnig i Gynhadledd, [1970au?]; rhestr o gyhoeddiadau, c.1971; calendr y blaid genedlaethol 1980; cynigion dilys Cynhadledd 1987; a chyfrifon Plaid Cymru, 30 Mehefin 1993. Hefyd 'Remember Cwm Tryweryn', baled gan Meic Stephens mewn cefnogaeth Cronfa Emyr Llew, [c.1963]; caneuon etholiad Caerffili, 1968; englyn 'I Nans Jones ar ymddeol o'i swydd yn Swyddfa Plaid Cymru', gan Ithel Davies, [c.1967]; 'Gwynfor', cân gan Dafydd Iwan, [d.d.]; a rhaglen perfformiad Cwmni Theatr Gwynedd o 'Excelsior' gan Saunders Lewis, [1991].