Showing 2 results

Archival description
Miscellaneous letters and papers Owen, William H. (William Henry)
Print preview View:

Llythyr Emyr Llewelyn

Llythyr, 24 Chwefror 1963, oddi wrth Emyr Llew[elyn] Jones, Llandysul, at ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Ardudwy, Harlech, yn eu mysg William H. Owen, i ddiolch am eu llythyr yn cefnogi ei safiad, ar ôl iddo danio ffrwydryn ar safle adeiladu argae Tryweryn ar y 10 Chwefror. Cafodd ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad, a'i ryddhau ar fechnïaeth ar y 21 Chwefror. = A letter, 24 February 1963, from Emyr Llew[elyn] Jones, Llandysul, to sixth-form students at Ysgol Ardudwy, Harlech, including William H. Owen, thanking them for their letter supporting his action in detonating an explosive device at the construction site of the Tryweryn dam on 10 February. He had been arrested soon after the incident but was released on bail on the 21 February.
Mae'r llythyr hefyd yn trafod safbwynt Plaid Cymru a Gwynfor Evans tuag ato, ac yn cymeradwyo'n llwyr eu penderfyniad i ymatal rhag ei gefnogi yn gyhoeddus. = The letter also discusses the stance of Plaid Cymru and Gwynfor Evans towards him and fully endorses their decision to refrain from supporting his actions publicly.

Llywelyn, Emyr.

Llythyr Gerallt Lloyd Owen

Llythyr, 18 Gorffennaf 1966, at William H. Owen oddi wrth y bardd Gerallt Lloyd Owen, yn trafod y syniad o ddechrau comic yn y Gymraeg i blant hŷn yn dwyn y teitl Yr Hebog. Bu'r ddau yn gyfeillion yn y Coleg Normal, Bangor, 1963-1966 (f. 71). = A letter, 18 July 1966, to William H. Owen from the poet Gerallt Lloyd Owen, discussing the idea of starting a comic in Welsh for older children entitled Yr Hebog. The two men were friends as students at the Normal College, Bangor, 1963-1966 (f. 71).
Ceir hefyd ffotograff o'r criw ffrindiau coleg a dynnwyd rhywbryd ar ôl i Gerallt ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1965 (yn sefyll, o'r chwith i'r dde: William Henry Owen, Dyffryn Ardudwy, William Lloyd Davies, Melin-y-Wig, Trefor Bertram Owen, Llanberis, a Walter Glyn Davies, Amlwch; yn y canol, yn cael ei gario: Gerallt Lloyd Owen; yn eistedd: Edward Morris Jones, Llanuwchllyn) (f. 72). = Also included is a photograph of their circle of college friends, taken following Gerallt's victory in the chair competition at the 1965 Urdd National Eisteddfod (standing, left to right: William Henry Owen, Dyffryn Ardudwy, William Lloyd Davies, Melin-y-Wig, Trefor Bertram Owen, Llanberis, and Walter Glyn Davies, Amlwch; centre, carried aloft: Gerallt Lloyd Owen; sitting: Edward Morris Jones, Llanuwchllyn) (f. 72).

Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014