- NLW MS 23870E.
- File
- 1905, 1939-1945
Papurau, 1905-1945, yng Nghymraeg a Saesneg, fu'n eiddo i'r Athro John Edward Daniel, yn ymwneud â'i weithgareddau gwleidyddol gyda Plaid Cymru. = Papers, 1905-1945, in Welsh and English, of Professor John Edward Daniel, relating mostly to his political activities with Plaid Cymru.
Maent yn cynnwys llythyrau oddi wrth Compton Mackenzie, 8 Hydref 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 Tachwedd 1945 (f. 14), a William George, 20 Mehefin 1945 (f. 5), ynghyd â nodiadau gan George ar gyfer araith yn cefnogi Daniel fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Mwrdeisdrefi Caernarfon yn etholiad 1945 (ff. 6-13). Hefyd yn y casgliad ceir papur enwebu Saunders Lewis yn is-etholiad Prifysgol Cymru, 1943 (f. 4); teipysgrif 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' gan D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, diwedd ar goll); a dau eitem o ohebiaeth deuluol, 1905 a [d.d.] (ff. 33-34). = They include letters from Compton Mackenzie, 8 October 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 November 1945 (f. 14), and William George, 20 June 1945 (f. 5), together with autograph notes for a speech by the latter in support of Daniel's candidacy for Plaid Cymru in Carnarvon Boroughs in the 1945 General Election (ff. 6-13). Also in the collection are nomination paper of Saunders Lewis in the University of Wales by-election, 1943 (f. 4); a typescript 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' by D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, end lacking); and two items of family correspondence, 1905 and [n.d.] (ff. 33-34).
Daniel, John Edward, 1902-1962.