Print preview Close

Showing 4 results

Archival description
Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879 file
Print preview View:

Achos 1941

Gohebiaeth, 1939-1942, yn ymwneud ag achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol, yn cynnwys llythyrau gan Idris Bell (8); E. N. Bennett (2); Henry Bird; E. G. Bowen; Aneirin Talfan Davies (7); Clement Davies (llythyr at Robert Evans, Llanbrynmair); George M. Ll. Davies (9); Ithel Davies; Leonard Twiston Davies (17); Pennar Davies; Walter Dowding (3); Ifan ab Owen Edwards; T. I. Ellis (7); D. Owen Evans (9); Gwynfor Evans (2); Robert Evans, Llanbrynmair (5, ynghyd â dau lythyr ato gan Clement Davies); H. J. Fleure (10); R. L. Gapper; David Lloyd George; William George (3); Charles Green (3); Ll. Wyn Griffith (7); J. Gwyn Griffiths; Jim Griffiths (6); W. J. Gruffydd; W. F. Grimes (3); I. D. Hooson; D. R. Hughes (3); J. G. Moelwyn Hughes (4); Ronw Moelwyn Hughes (8, yn eu plith mae dau lythyr at 'Mr Jones'); Harold A. Hyde (3); Norah Isaac; R. T. Jenkins (3); William John (3); E. K. Jones (5, ynghyd â thorion o'r wasg yn trafod yr achos); E. P. Jones (19, yn eu plith mae llythyrau gan Jim Griffiths a John Harries (Irlwyn)); Frank Price Jones (4); Gwilym R. Jones; T. Gwynn Jones (3); David Lewis (8); Elena Puw Morgan; Herbert Morgan (2); John Morgan (2); Frank Murphy (2); J. Middleton Murry (2); T. E. Nicholas (10); R. G. Owen (4); R. Williams Parry; Tom Parry (8); T. K. Penniman (28); D. O. Roberts (4); Evan Roberts (10); Hywel D. Roberts; R. U. Sayce (2); Alf Sommerfelt (2); Ben Bowen Thomas (5); Herbert M. Vaughan (2); D. J. Williams (4); Ifor Williams (3); J. L. C. Cecil-Williams (9); a Morris T. Williams. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol yn ymwneud â'r achos yn cynnwys llythyrau gan Cyril Fox (20); cefnogaeth i achos Iorwerth Peate gan amryw unigolion a sefydliadau, yn eu plith tystlythyrau gan Leonard Twiston-Davies, W. J. Gruffydd a George M. Ll. Davies; datganiadau gan Iorwerth Peate; a deunydd printiedig.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Llythyrau a drafftiau

19 llythyr a 24 drafft, gan fwyaf o erthyglau, a phapurau amrywiol yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth Idris Bell, 1930, Dilys Cadwaladr, 1931, M. G. Dawkins, 1939, T. I. Ellis, 1941, ac R. G. Berry, heb ei ddyddio. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhestr 'Erthyglau' wedi eu dyddio 1931 a rhwng 1936-1941, ond nid yw rhan helaeth o'r eitemau yn y ffeil wedi eu cynnwys yn y rhestr.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Llythyrau a drafftiau

12 o lythyrau ac 11 drafft o erthyglau a cherddi a anfonwyd at T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, yn cynnwys cyfraniadau gan Idris Bell, 1949, R. T. Jenkins, 1947, Frank Price Jones, 1949, Mathonwy Hughes, 1946, J. Lloyd-Jones, 1951, T. I. Ellis, 1941, J. Eirian Davies, 1945, a Glyn Tegai Hughes, 1945. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr at W. J. Gruffydd, 1936, a nodyn gan Prys Morgan, 1987.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879