Showing 4 results

Archival description
Wil Ifan, 1883-1968.
Print preview View:

Papurau Wil Ifan,

  • GB 0210 WILFAN
  • Fonds
  • 1896-1966, 2019

Papurau Wil Ifan, 1896-1982, yn cynnwys llythyrau ato, 1902-1966, ac oddi wrtho at ei deulu, 1915-1966; gweithiau cyhoeddedig a barddoniaeth a rhyddiaith, yn Saesneg yn bennaf, yn cynnwys nodiadau, [1920]-1956; pregethau, 1921-1933; dyddiaduron, 1900-1947; sgriptiau radio, 1952-1963; a chopïau o Celt a olygwyd gan Dan Evans, 1896-1897. = Papers of Wil Ifan, 1896-1982, including letters to him, 1902-1966, and from him to his family, 1915-1966; published works and poetry and prose, mainly in English, including notes, [1920]-1956; sermons, 1921-1933; diaries, 1900-1947; radio scripts, 1952-1963; and copies of Celt, edited by Dan Evans, 1896-1897.

Hefyd yn cynnwys astudiaeth Shirley Wynne Vinall, 2019, wedi ei argraffu a’i rwymo yn ddwy gyfrol, o 'Llyfr yr Achau' gan 'Wil Ifan', yn cynnwys detholiadau o lyfr nodiadau ei thaid ar hanes ei deulu, gwybodaeth am deuluoedd ei fam a’i dad yn Sir Gaerfyrddin, Cwmafan a Sir Aberteifi, a theulu ei wraig Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, ynghyd â phennod ychwanegol gan y rhoddwr ar ei yrfa a’i ysgrifau. Ceir hefyd gopi llawysgrif o’r emyn "O Jesu, King most wonderful", a gyfieithwyd gan y Parch. E. Caswall, gyda cherddoriaeth gan B[ertram] J. Orsman, 1946, wedi’i lofnodi a’i gyflwyno gan y cyfansoddwr i’r Parch. W. Evans ('Wil Ifan'). = Also includes a study by Shirley Wynne Vinall, 2019, printed and bound in two volumes, of 'Llyfr yr Achau' by 'Wil Ifan', including extracts from her grandfather’s notebook on his family history, and containing information about his maternal and paternal families in Carmarthenshire, Cwmavon and Cardiganshire, and the family of his wife Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, together with an additional chapter by the donor on his career and writings. Also included is a manuscript copy of the hymn "O Jesu, King most wonderful", translated by Rev. E. Caswall, with music by B[ertram] J. Orsman, 1946, signed and presented by the composer to the Rev. W. Evans ('Wil Ifan').

Papurau a roddwyd Hydref 2022: gweler y disgrifiad dan y Gyfres ychwanegol.

Wil Ifan, 1883-1968.

Llythyrau Wil Ifan a Nansi Richards,

Cerdyn post, [14] Awst 1951, oddi wrth Wil Ifan at Mr a Mrs Alan Guile, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cytuno i roi geirda drostynt (f. 35); a llythyr, 27 Awst 1954, oddi wrth Nansi R. Jones (sef Nansi Richards, Telynores Maldwyn), at Mr Guile, ym Metws-y-Coed, yn edrych ymlaen i'w weld (f. 36). = A postcard, [14] August 1951, from Wil Ifan to Mr and Mrs Alan Guile, Bridgend, agreeing to act on their behalf as referee (f. 35); and a letter, 27 August 1954, from Nansi R. Jones (i.e. Nansi Richards, Telynores Maldwyn) to Mr Guile, at Betws-y-Coed, regarding his family's impending visit (f. 36).

Wil Ifan, 1883-1968.

Achau Wil Ifan,

Copi ffacsimili, [1973], o goeden deulu ei fam, [c. 1960], yn llaw y Parch. William Evans (Wil Ifan). = A xerograph facsimile, [1973], of his mother's family tree, [1933x1968], in the hand of the Rev. William Evans (Wil Ifan).

Wil Ifan, 1883-1968.

Englyn gan Wil Ifan,

Nodyn, [c. 1965?], oddi wrth Wil Ifan, Pen-y-bont ar Ogwr, at [Rhiannon Francis Roberts] yn cynnwys englyn ganddo (ond sydd yn cael ei briodoli yma i Roberts) yn cyfeirio, mae'n debyg, at annibendod ei bapurau ei hun. = Note, [c. 1965?], from Wil Ifan, Bridgend, to [Rhiannon Francis Roberts] containing an englyn by him (but here ascribed to Roberts), apparently referring to the disarray amongst his own papers.
Roedd Roberts yn archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol a bu'n gyfrifol am gatalogio lythyrau Wil Ifan ym 1965. = Roberts was an archivist at the National Library and was responsible for cataloguing Wil Ifan's letters in 1965.

Wil Ifan, 1883-1968.