Showing 3 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Rowlands, John, 1938-2015 file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1972-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Ryngwladaol 1974, pryd y gwahoddwyd awduron o Iwgoslafia draw i Gymru; at adolygu llyfrau Cymraeg yn y Western Mail, at sefydlu papur dyddiol Cymraeg ac at sefydlu Undeb Awduron Cymru. Mae'n cynnwys cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin a dadansoddiad daearyddol manwl gan Tecwyn Lloyd o'r cyfrannwyr i'r chwe chyfrol ar hugain cyntaf. Ceir gohebiaeth rhwng yr Academi a sefydliadau eraill yng Nghymru ynglŷn â sefydlu archif o raglenni radio a theledu - cynnig a osodwyd ger bron Cynhadledd Taliesin ym 1973. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Moses Glyn Jones, yn 1973, am ei gyfrol Y Ffynnon Fyw.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth gyffredinol: Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ac yn arbennig felly ei chysylltiad â Chyngor Celfyddydau Cymru, dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir trafodaeth ar fanylion ariannol yr Academi ac ar y trefniadau i benodi Swyddog Gweinyddol cyflogedig am y tro cyntaf, yn ogystal â sylwadau penodol Tecwyn Lloyd ar y pwnc.

Rowlands, John, 1938-2015