Showing 5 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Bowen, Euros,
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1966

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1967

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen a Gwyn Thomas, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; John Rowlands, J. M. Edwards, Gerald Morgan, Ifan Gruffydd, Tudur Jones, J. R. Jones, Meic Stephens, Emyr Jones, Dafydd Glyn Jones, Islwyn Ffowc Elis, Harri Pritchard Jones, Derec Llwyd Morgan, Eigra Lewis Roberts, Gareth Alban Davies, R. Bryn Williams, Harri Gwyn a Nesta Wyn Jones. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Crwydro Sir Faesyfed, Ffransis Payne.

Bowen, Euros,