Showing 2 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Jones, Bobi, 1929-2017 Thomas, Gwyn, 1936-
Print preview View:

Cofnodion Cynnar

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o gofnodion yr Academi Gymreig o'r cyfnod allweddol rhwng ei sefydlu ym 1960 a chyflogi ei Swyddog Gweinyddol cyntaf ym 1974 ac yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o unigolion amlwg ym myd llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod. Roedd y cyfarfodydd penwythnos yn cynnwys seiadau llenyddol ac un cyfarfod busnes. Cofnodion y cyfarfodydd hyn, a dau gyfarfod o rag-bwyllgor yr Academi a gynhaliwyd yn ystod 1959, a geir yma. Fe fu nifer o'r aelodau yn ysgrifenyddion yn ystod y cyfnod hwn yn eu plith Bobi Jones, yr ysgrifennydd cyntaf, 1959-1963, a Gwyn Thomas, Bangor, 1967-1971, a oedd yn paratoi cofnodion ffraeth a threiddgar.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1965

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd รข sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Alun Talfan Davies, John Gwilym Jones, Kate Roberts, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas, Rhiannon Davies Jones, Alun Jones, Y Cilie, Gareth Miles a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017