Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Gruffydd, R. Geraint ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.

Gruffydd, R. Geraint

Cyfres y clasuron: gohebiaeth, 1977-1980

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â chyhoeddi Cyfres y Clasuron, adroddiadau a llythyrau yn ymwneud â materion gweinyddol yn ogystal â gohebiaeth gweddol fanwl rhwng Geraint Gruffydd a Saunders Lewis ynglŷn â chyhoeddi Meistri a'u Crefft, Gwynn ap Gwilym, gol. (Caerdydd, 1981), 1977-1980.

Lewis, Saunders, 1893-1985