Dangos 21 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Wynfford James
Rhagolwg argraffu Gweld:

Anerchiadau

Copïau o anerchiadau, erthyglau a nodiadau Wynfford James tra yn ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith.

Ceisiadau, adroddiadau ac astudiaethau

Copi o The Antur Teifi Innovation Centre: a rural development initiative in the Teifi Valley, West Wales, sef adroddiad a baratowyd gan Chris Philo, Paul Clarke, Jill Venus ac eraill, Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Mehefin 1991; Consultancy Services Proposal ar gyfer Horeb Food Centre, a gyflwynwyd gan Project Partnerships i Antur Teifi, Medi 1995; cais i Gyngor Celfyddydau Cymru gan Canto am yr Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth, Ionawr 1998, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, [Chwefror 1999]; a copi o Rural Carmarthenshire Economic Study: Report for Carmarthenshire County Council, the Welsh Development Agency and the West Wales Training and Enterprise Council, a baratowyd gan Brifysgol Caerdydd, Mai 1999.

Cyhoeddiadau amrywiol Antur Teifi

Mae'r ffeil yn cynnwys amrywiol gyhoeddiadau gan Antur Teifi, gan gynnwys, copïau o Newyddion Antur Teifi News (Gwanwyn 1985 [anghyflawn] a Gwanwyn 1986); Antur Teifi 1997-1998 [2 gopi]; Menter ’89 = Enterprise ’89 – rhifyn penblwydd [2 gopi]; Codi cefn gwlad yn ei ôl = Reviving rural west Wales (1992) [2 gopi]; “Dechreuad newydd (llawlyfr i fenywod mewn ardaloedd gwledig)” [copi anghyflawn]; a phecyn hyrwyddo Cegin Cymru.

Deunydd printiedig

Deunydd printiedig, [1969]-2006, gan gynnwys Darlledu yng Nghymru: cyfoethogi neu ddinistrio’n bywyd cenedlaethol? = Broadcasting in Wales: to enrichen or destroy our national life?, [1969]; Tafod y Ddraig, 1973-1982 (rhediad anghyflawn); Tafod Dyfed, 1979; Maniffesto ’82; Deddf newydd i’r iaith: argymhellion = A new Welsh language act: recommendations, [1984]; ynghyd â chopi o Curiad, Gaeaf 1978-79.

Dogfennau corfforaethol Antur Teifi

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau neu adolygiadau blynyddol Antur Teifi ar gyfer 1985-86, 1995-96 [2 gopi], 2002-03, 2008-09, 2010-11, 2011-12; ac Uchafbwyntiau ar gyfer 2013 a 2016; Cynllun Busnes Antur Teifi dyddiedig Medi 1988 (diwygiedig) ac un ar gyfer 1999-2000 [2 gopi] (ynghyd â draft cyntaf, Chwefror 1999); a Cynllun Corfforaethol Antur Teifi ar gyfer 2000-01 a 2001-02.

Llythyron

Ceir llythyr yn penodi Wynfford James fel Cyfarwyddwr Datblygu yn y Sector Bwyd o fewn yr Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), Chwefror 1999, ynghyd â llythyrau yn ei longyfarch ar y penodiad, ynghyd â chopi o lythyr Brian Willott, Prif Weithredwr y WDA at Cynog Dafis, AS yn sgil y penodiad. Hefyd, llythyr wrth Golwg yn cyfeirio at ddathliad y cylchgrawn Golwg yn 25 oed, 2013 a Ie - yn dda ar gyfer busnes.

Llythyron carchar Wynfford James

Llythyron, cardiau cyfarch a chardiau post, Rhagfyr 1978 i Mawrth 1979 a dderbyniodd Wynfford James tra oedd yng Ngharchar Abertawe. Ceir un llythyr a ysgrifennodd o'r carchar at ei fam, dyddiedig 31 Ionawr 1979.

Llythyron Menna Elfyn

Llythyron a chardiau, 1978-1979, a dderbyniodd Menna Elfyn tra oedd ei gŵr yn y carchar, gan gynnwys un wrth Huw Jones, Sain Cyf.

Papurau Cymdeithas yr Iaith

Mae’r ffeil yn cynnwys agenda Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhaliwyd yn Nhachwedd 1966, lle trafodwyd polisi’r mudiad ynghylch gweithredu di-drais, ynghyd â chofnodion Senedd 1976 a 1977.

Papurau Wynfford James

  • Fonds
  • 1966-2016

Mae’r papurau a dderbyniwyd yn 2023 yn adlewyrchu dwy elfen o fywyd a gyrfa Wynfford James. Bu Wynfford James yn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod yr 1970au a’r 80au, ac fe’i carcharwyd tair gwaith am weithredu yn enw’r Gymdeithas, gan gynnwys pan gafodd ef a Rhodri Williams eu carcharu yn 1978 am achosi difrodi i fast ddarlledu Blaenplwyf. Ac o ran ei yrfa, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar Antur Teifi, menter gymdeithasol a sefydlwyd yn 1979 i helpu busnesau yn Nyffryn Teifi i ddechrau a ffynnu, cyn iddo ymuno ag Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) yn bennaeth ar y Gyfarwyddiaeth Datblygu yn y Sector Bwyd.

Wynfford James

Radio Ceredigion

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ymchwil Arolwg Radio Ceredigion a baratowyd gan Beaufort Research ar gyfer Antur Teifi/Radio Ceredigion, Mai 1999; memo, 2 Gorffennaf 1999, wrth Cris Tomos at sylw Wynfford James, parthed Radio Ceredigion; a llythyr, 6 Awst 1999, wrth Aled Eirug, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes, BBC Cymru yn cynnwys trawsysgrif o raglen Taro Naw parthed Radio Ceredigion, ynghyd â llythyrau wrth Wynfford James yn gofyn am y cyfryw beth. Hefyd, cais Radio Ceredigion Cyf. i’r Awdurdod Radio am drwydded i weithredu gorsaf radio gymunedol yn ardal Ceredigion, Rhagfyr 1991.

Rhaglen LEADER

Mae'r ffeil yn cynnwys copi o Monitoring Antur Teifi’s Delivery of LEADER in the Teifi Valley: Appendices: The Second Report – Draft (August 1993) [2 gopi] a Leader II in the Teifi Valley: an indicative programme from Antur Teifi, Gorffennaf 1994, ynghyd â deunydd printiedig yn ymwneud â rhaglen LEADER a LEADER II, gan gynnwys copïau o Leader magazine: Quarterly Journal of the Community Programme Leader – rhifynnau 2 (Winter 1992-1993), 7 (Autumn 1994 – 2 gopi) ac 8 (Winter 1994); pamffled Gweithredu dros gymunedau gwledig: LEADER+ yng Nghymru = Rural community action: LEADER+ in Wales; a LEADER II: Dyfodol i gefn gwlad Cymru = A future for rural Wales (1997).

Canlyniadau 1 i 20 o 21