Showing 6 results

Archival description
Papurau Mary Silyn Roberts (Archif Menywod Cymru) = Mary Silyn Roberts Papers (Women's Archive of Wales) Roberts, Glynn Silyn, 1906-1983
Print preview View:

Llun yn y wasg o Sion Silyn Roberts = Press photograph of Sion Silyn Roberts

Toriad o gylchgrawn The Navy (Cyf. LVII, rhif 7) (Gorffennaf 1952) yn cynnwys llun o Sion Silyn Roberts, mab Glynn Silyn Roberts, yn trin cwch hwylio. Pennawd y llun yw 'A Yachting World Cadet'. Arnodir y toriad yn llaw Mary Silyn Roberts: '"SION" on his ear nearly!! (mab Glynn Silyn Roberts)'. = Press cutting from The Navy magazine (Vol. LVII, no. 7) (July 1952) showing a photograph of Sion Silyn Roberts, son of Glynn Silyn Roberts, handling a sailing boat. The photograph is headed 'A Yachting World Cadet'. The cutting is annotated in Mary Silyn Roberts' hand: '"SION" on his ear nearly!! (mab [son of] Glynn Silyn Roberts)'.

Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth D. Williams = Letter to Mary Silyn Roberts from D. Williams.

Llythyr, 13 Awst 1956, at Mary Silyn Roberts oddi wrth D. Williams, Earlestown, Swydd Gaerhirfryn, yn cyfeirio at feibl a brynwyd gan Mary Silyn Roberts. Mewn arnodiad ar frig y llythyr, mae Mary yn nodi iddi brynu'r beibl iddi hi'i hun gan ei bod eisio rhoi un ei gŵr Silyn i'w mab Glynn ar ei benblwydd yn hanner cant. = Letter, 13 August 1956, to Mary Silyn Roberts from D. Williams, Earlestown, Lancashire, referring to a bible bought by Mary Silyn Roberts. In an annotation at the top of the letter, Mary states that she bought the bible for herself as she wished to give her husband Silyn's bible to their son Glynn on his fiftieth birthday.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry = Letter to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry

Llythyr, 3 Ebrill 1906, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry, mam Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, Llundain ar achlysur geni Glynn, mab Silyn a Mary Silyn Roberts. Arnodwyd yn llaw Mary Silyn Roberts: 'for Glynn' a 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn'. = Letter, 3 April 1906, to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry, Eardley Crescent, London, mother of Mary Silyn Roberts, on the occasion of the birth of Glynn, son of Silyn and Mary Silyn Roberts. Annotated in Mary Silyn Roberts' hand: 'for Glynn' and 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn' [after the birth of Glynn ap [son of] Silyn].

Llythyrau at Mary Silyn Roberts oddi wrth Glynn Silyn Roberts = Letters to Mary Silyn Roberts from Glynn Silyn Roberts

Llythyr, 7 Ionawr 1934, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, Brampton Park Road, Llundain, sy'n cynnwys cyfeiriadau at y cymwystrau academaidd a ennillodd yn y Llu Awyr a'i obeithion (neu ddim) am gael mynediad i Imperial College, Llundain; ei frawd, Meilir (a adwaenwyd fel Bill); a chynnwys a gopïwyd o lythyr cyflwyno a ysgrifenwyd ar ei ran. Cymraeg, gydag un rhan yn Saesneg. = Letter, 7 January 1934, to Mary Silyn Roberts from her son Glynn Silyn Roberts, Brampton Park Road, London, referencing the academic qualifications he has gained in the Air Force and his hopes (or not) regarding entry to Imperial College, London; his brother Meilir (known as Bill); and the contents of a letter of introduction written on his behalf. Welsh, with one part in English.

Llythyr, 30 Mehefin 1949, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, RAF Swindon, yn ei sicrhau y bydd yn ei chynorthwyo i deithio i Ddenmarc ym mis Awst. Nodyn gan [?Luned Meredith], un o roddwyr y casgliad, ar daflen atodol: '[Y]m mis Hydref 1949 roedd M[ary] S[ilyn] R[oberts] yn fy ngwarchod i a'm chwaer tra oedd [sic] fy rhieni yn Elsinor mewn cynhadledd UNESCO. Mewn llythyr atyn nhw [rhieni Luned Meredith, mae'n debyg] mae'n [Mary Silyn Roberts, mae'n debyg] gofyn a ydyn nhw [w]edi cael cyfle i gyfarfod Henni Forchhammer'. Saesneg, gyda chyfarchion Cymraeg. = Letter, 30 June 1949, to Mary Silyn Roberts from her son, Glynn Silyn Roberts, RAF Swindon, reassuring her that he will help her in travelling to Denmark in August. Note by [?Luned Meredith], one of the archive's donors, on accompanying sheet (translated): 'In October 1949, M[ary] S[ilyn] R[oberts] was looking after myself and my sister while my parents were at a UNESCO conference in Elsinor. In a letter to them she [presumably Mary Silyn Roberts] asks them [presumably Luned Meredith's parents] whether they have had an opportunity to meet Henni Forchhammer. English, with greetings in Welsh.

Llythyr, 8 Gorffennaf 1949, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, RAF Bisley, swydd Surrey, yn ei sicrhau y bydd yn ei chynorthwyo i deithio i Ddenmarc ym mis Awst a bod Rhiannon (a adwaenwyd fel 'Nanw'), chwaer Glynn a merch Mary Silyn Roberts, eisioes wedi gwneud y trefniadau sydd eu hangen. Saesneg, gyda chyfarchion Cymraeg. = Letter, 8 July 1949, to Mary Silyn Roberts from her son, Glynn Silyn Roberts, RAF Bisley, Surrey, reassuring her that he will help her in travelling to Denmark in August, and that Rhiannon (known as 'Nanw'), sister of Glynn and daughter of Mary Silyn Roberts, has already made the necessary arrangements. English, with greetings in Welsh.

Llythyr, 13 Medi 1949, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, RAF Swindon, yn cyfeirio at ei waith yn yr awyrlu ac at dechnoleg beirianegol; hefyd at y ffaith fod Debrett's yn ceisio ei annog i ychwanegu ei enw at eu rhestrau. Saesneg, gyda chyfarchion a brawddeg agoriadol yng Nghymraeg = Letter, 13 September 1949, to Mary Silyn Roberts from her son, Glynn Silyn Roberts, RAF Swindon, referencing his air force work and engineering technology; mentioning also that Debrett's were trying to persuade him to add his name to their lists. English, with greetings and opening sentence in Welsh.

Llythyr, 15 Gorffennaf 1952, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, Wright's Lane, Llundain, yn cyfeirio at gysylltu â [?Chyngor Sir Gaernarfon] ynghylch y llwybr troed sy'n arwain at Gofeb Taliesin ger Llyn Geirionydd, Llanrwst; ac at geisio cynorthwyo myfyriwr tramor o'r enw R. K. Mirchandani i astudio Peirianneg mewn prifysgol ym Mhrydain. Saesneg, gyda chyfarchion a brawddeg agoriadol yng Nghymraeg.= Letter, 15 July 1952, to Mary Silyn Roberts from her son, Glynn Silyn Roberts, Wright's Lane, London, referencing his contacting [?Caernarfonshire County Council] regarding a footpath leading to the Taliesin Monument near Geirionydd Lake, Llanrwst; and to helping a foreign student named R. K. Mirchandani study Engineering at a British university. English, with greetings and opening sentence in Welsh.

Llythyr, 18 Gorffennaf 1952, at Mary Silyn Roberts oddi wrth ei mab, Glynn Silyn Roberts, Wright's Lane, Llundain, yn cyfeirio at ei chwaer, Rhiannon (a adwaenwyd fel 'Nanw'); at fyfyriwr tramor o'r enw R. K. Mirchandani; ac at lwybr troed yn arwain at Gofeb Taliesin ger Llyn Geirionydd, Llanrwst. Saesneg, gyda chyfarchion a brawddeg agoriadol yng Nghymraeg.= Letter, 18 July 1952, to Mary Silyn Roberts from her son, Glynn Silyn Roberts, Wright's Lane, London, referencing his sister, Rhiannon (known as 'Nanw'); a foreign student named R. K. Mirchandani; and a footpath leading to the Taliesin Monument near Geirionydd Lake, Llanrwst. English, with greetings and opening sentence in Welsh.

Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Margarethe Hoffmann = Letters to Robert (Silyn) Roberts from Margarethe Hoffmann

Llythyr, 31 Gorffennaf 1906, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Margarethe Hoffmann, a oedd yn wreiddiol o Ddenmarc ond a oedd yn ysgrifennu o Gaeredin, yn cyfeirio at ei harhosiad diweddar yng nghartref Silyn a Mary Silyn Roberts ac at eu mab, Glynn Silyn Roberts, a fyddai'n faban ifanc yr adeg hon; hefyd yn nodi cyfeiriad modryb Margarethe Hoffmann yn yr Almaen. = Letter, 31 July 1906, to Robert (Silyn) Roberts from Margarethe Hoffmann, who was originally from Denmark but who was writing from Edinburgh, referencing her recent stay with Silyn and Mary Silyn Roberts and mentioning their son Glynn Silyn Roberts, who would have been an infant at this time; also noting Margarethe Hoffmann's aunt's address in Germany.

Llythyr, 10 Awst 1907, at Robert (Silyn) Roberts tra 'roedd yn Boulogne-sur-Mer, Ffrainc oddi wrth Margarethe Hoffmann a Louise [?Wissteten], Stubbekøbing, Denmarc, yn cyfeirio at Mary Silyn Roberts a'i gwaith yn darlithio mewn ysgol haf yn Nenmarc; cyfeiriad hefyd at Glynn Silyn Roberts, mab bychan Silyna Mary Silyn Roberts. Nodyn gan Luned Meredith, un o roddwyr y casgliad, ar daflen atodol: 'Mae Glynn ychydig dros flwydd oed; mae Mary yn ôl yn darlithio yn Nenmarc ac R[obert] S[ilyn] R[oberts] yn Ffrainc. Siwr fod Glynn yng nghofal ei nain (?). Trefniadau anarferol iawn i'r cyfnod faswn i'n meddwl'. = Letter, 10 August 1907, to Robert (Silyn) Roberts while he was at Boulogne-sur-Mer, France from Margarethe Hoffmann and Louise [?Wissteten], Stubbekøbing, Denmark, relating to Mary Silyn Roberts and her work lecturing at summer school in Denmark; reference also to Glynn Silyn Roberts, infant son of Silyn and Mary Silyn Roberts. Note by Luned Meredith, one of the archive's donors, on accompanying sheet (translated): 'Glynn is a little over a year old; Mary is back lecturing in Denmark and R[obert] S[ilyn] R[oberts] is in France. Glynn is probably in his grandmother's care (?). Very unusual arrangements for the time, I should think.'

Y Ddau Ddewin

Cerdd i Glynn Silyn Roberts a Meilir Silyn Roberts (a adwaenwyd fel Bill), meibion Silyn a Mary Silyn Roberts, gan y bardd, llenor a'r ysgolhaig T. Gwynn Jones. Ysgrifennwyd y gerdd pan oedd Glynn a Meilir yn blant a chyn geni Rhiannon, trydydd plentyn Silyn a Mary; ynghyd â dalen yn cynnwys copi teipiedig o'r gerdd, gyda'r arnodiad: 'Ymgais i ddehongli'r gwreiddiol' (mae'n amlwg o'r gwreiddiol mai 'Y Ddau Ddewin' ddylai'r teitl fod, nid 'I Ddau Ŵr Bach', fel a geir yn y dehongliad). = Poem addressed to Glynn Silyn Roberts and Meilir Silyn Roberts (known as Bill), sons of Silyn and Mary Silyn Roberts, by the poet, author and scholar T. Gwynn Jones. The poem was written when Glynn and Meilir were children and prior to the birth of Rhiannon, Silyn and Mary's third child; together with a sheet of paper containing a typed copy of the poem, alongside an annotation: 'Ymgais i ddehongli'r [gerdd] gwreiddiol' ['An attempt to interpret the original [poem]'] (it is obvious from the original poem that the title should read 'Y Ddau Ddewin' ['The Two Wizards'], not, as has been interpreted in the copy, 'I Ddau Ŵr Bach' [''To Two Little Men']).