- E8/2
- Ffeil
- [1934x1951]
Atgynhyrchiad o waith Matt [Solander] a gyhoeddwyd yn The Sunday Graphic yn cynnwys digrifluniau o enwogion Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys T. Eirug Davies y cyfeirir ato fel bardd y goron, 1932-1934.
Atgynhyrchiad o waith Matt [Solander] a gyhoeddwyd yn The Sunday Graphic yn cynnwys digrifluniau o enwogion Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys T. Eirug Davies y cyfeirir ato fel bardd y goron, 1932-1934.
Bywyd a gwaith y Parch. T. Eirug Davies
Papurau yn ymwneud â’i ymchwil ar gyfer ei gyfrol Bywyd a gwaith y Parch. T. Eirug Davies (1892-1951) (Aberystwyth, 2017) a olygwyd gan Alun Eirug Davies.
Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, [1915]-[1942], gan gynnwys llyfrau nodiadau yn ei law a cherddi ‘Yr ynys unig’, ‘Nef ennyd aur’, ‘Henaint’, ‘Cymru glaf’ ac ‘Emyn o’r Bregeth ar y mynydd’.
Cerddi llawysgrif a theipysgrif gan T. Eirug Davies, [1927]-[1950], gan gynnwys 'Dyffryn Clydach', 'Chwerthin y meirw', '1941', 'Y dragonau', 'At yr ifanc ar wasgar' ac 'Aberystwyth'.
Cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol T. Eirug Davies, gan gynnwys Pryddest: ‘Môn, Eryri a’r Moroedd’, Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; traethawd buddugol ‘Diwinyddiaeth Gristnogol a Gwybodaeth ddiweddar’, Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; cerdd ymson ‘Uwch Bedd Llywelyn Williams’, Eisteddfod Genedlaethol Treorci [1928]; a ‘Penyd’, pryddest Eisteddfod Genedlaethol Treorci [1928].
Dyddiadur T. Eirug Davies 1934, yn cynnwys rhai cofnodion ar gyfer mis Ionawr a phapurau yn ymwneud ag erthygl Alun Eirug Davies, ['The New Poor Law in a rural area, 1834-1850', Ceredigion, Cyfrol. 8, rhif. 3 (1978)].
Papurau’n ymwneud â’i alwad gyntaf i'r weinidogaeth i Eglwys Annibynnol Cwmllynfell,1919-1927, ac Eglwysi Annibynnol Soar, Llanbedr Pont Steffan, a Bethel, Parc-y-rhos, 1927-1951, gan gynnwys copi o lythyr yn derbyn yr alwad gyntaf yn 1926 ac yn gorffen ei weinidogaeth ym mis Mawrth 1951 oherwydd salwch; rhaglen gwasanaeth a ddarlledwyd o Soar yn 1933; ynghyd â ffotograff o garreg fedd T. Eirug Davies a’i wraig Jennie ym mynwent yr Eglwys.
Gwilym Hiraethog: Yr "Areithydd anghydmarol"
Darlith flynyddol Cymdeithas Hanes yr Annibynwyr a draddodwyd gan Alun Eirug Davies yn 2010, yn cynnwys llyfryddiaeth o weithiau Gwilym Hiraethog.
Llythyrau, [1950]-[2012], yn ymwneud â'i ddiddordebau academaidd a'i gyhoeddiadau.
Llythyrau o gydymdeimlad ar farwolaeth ei wraig Jennie ym mis Medi 1948, ynghyd â rhestr o'r gohebwyr.
Llythyrau o gydymdeimlad, 1951, a anfonwyd at y teulu ar ôl marwolaeth T. Eirug Davies.
Llythyrau, 1982-1993, oddi wrth ei frawd William/Bill [Gwilym Eirwyn Eirug Davies] yng Nghanada a phapurau'n ymwneud â’i stad, 2006-2008.
Llythyrau o gydymdeimlad ar ôl marwolaeth ei wraig
Rhai o'r llythyrau o gydymdeimlad, 2003, a dderbyniodd y teulu ar ôl marwolaeth Lyn Eirug Davies.
Llythyrau oddi wrth Jennie Thomas at T. Eirug Davies
Llythyrau oddi wrth Jennie Thomas at ei dyweddi T. Eirug Davies, 1918-1921.
Llythyrau oddi wrth T. Eirug Davies at Jennie Thomas
Llythyrau oddi wrth T. Eirug Davies at ei ddyweddi Jennie Thomas, 1918-1921, gan gynnwys adysgrifau o rai o’r llythyrau.
Llythyrau, 1942-1951, oddi wrth lenorion a gweinidogion amlwg, yn ymwneud â’i waith fel golygydd Y Dysgedydd,
Papermaking in Wales 1658-2000
Papurau, 1970-2006, yn ymwneud ag ymchwil Alun Eirug Davies i’r diwydiant gwneud papur a’i erthygl ‘Paper-mills and paper makers in Wales’ a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Haf, 1967, a’i lyfr Papermaking in Wales (2010), gan gynnwys torion o’r wasg ac allbrintiau wedi’u golygu.
Rhaglen seremoni graddio Prifysgol Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 1931, pan dderbyniodd Tom Eirug Davies radd MA, a thaflen Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru yn nodi mai'r Parch. T. Eirug Davies oedd yr Ysgrifennydd.