Showing 54 results

Archival description
Papurau Alun Eirug Davies Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Papurau Alun Eirug Davies

  • GB 0210 ALEIRUG
  • Fonds
  • [1908]-[2017]

Papurau llenyddol ac academaidd Alun Eirug Davies, ynghyd â phapurau ei dad T. Eirug Davies, [1908]-[2017], sy'n cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, pregethau a phapurau eraill. = Literary and academic papers of Alun Eirug Davies, together with the papers of his father T. Eirug Davies, [1908]-[2017], comprising correspondence, diaries, poetry, sermons and other papers.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Papermaking in Wales 1658-2000

Papurau, 1970-2006, yn ymwneud ag ymchwil Alun Eirug Davies i’r diwydiant gwneud papur a’i erthygl ‘Paper-mills and paper makers in Wales’ a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Haf, 1967, a’i lyfr Papermaking in Wales (2010), gan gynnwys torion o’r wasg ac allbrintiau wedi’u golygu.

Llythyrau o Ganada

Llythyrau, 1982-1993, oddi wrth ei frawd William/Bill [Gwilym Eirwyn Eirug Davies] yng Nghanada a phapurau'n ymwneud â’i stad, 2006-2008.

Llythyrau

Llythyrau, [1950]-[2012], yn ymwneud â'i ddiddordebau academaidd a'i gyhoeddiadau.

Gwilym Hiraethog

Nodiadau ymchwil T. Eirug Davies ar Gwilym Hiraethog; ei draethawd anfuddugol ‘Cyfraniad Gwilym Hiraethog i fywyd a llên ei gyfnod’, Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1929, ynghyd â chopi o ddarlith Alun Eirug Davies ar y llenor, 2010.

Gohebiaeth

Llythyrau T. Eirug Davies, [1912]-1979, yn cynnwys llythyrau oddi wrth ei ddarpar wraig Jennie Thomas; llythyrau yn ymwneud â’i waith fel golygydd Y Dysgedydd a llythyrau yn cydymdeimlo ag ef ar farwolaeth ei wraig yn 1948.

Ei weinidogaeth

Papurau’n ymwneud â’i alwad gyntaf i'r weinidogaeth i Eglwys Annibynnol Cwmllynfell,1919-1927, ac Eglwysi Annibynnol Soar, Llanbedr Pont Steffan, a Bethel, Parc-y-rhos, 1927-1951, gan gynnwys copi o lythyr yn derbyn yr alwad gyntaf yn 1926 ac yn gorffen ei weinidogaeth ym mis Mawrth 1951 oherwydd salwch; rhaglen gwasanaeth a ddarlledwyd o Soar yn 1933; ynghyd â ffotograff o garreg fedd T. Eirug Davies a’i wraig Jennie ym mynwent yr Eglwys.

Results 21 to 40 of 54