Showing 6 results

Archival description
Papurau E. Tegla Davies File
Print preview View:

Hughes a’i Fab

Llythyrau, 1953-1956, yn ymwneud â chyhoeddi'r nofel Gŵr Pen y bryn a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1923, ailargraffu'r nofel gan y wasg a darlledu addasiad o'r nofel gan y BBC yn 1954. Ceir llythyrau oddi wrth D. Tecwyn Lloyd.

Dadorchuddio'r plac yn Llandegla

Papurau ei fab Arfor yn ymwneud â dadorchuddio plac ganddo er cof am ei Dad ar y cartref genedigol yn Llandegla, 6 Mehefin 1970, a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Sir Ddinbych, ynghyd â rhaglen, ffotograff o’r achlysur a thorion o’r wasg.

Torion

Cyfrol o dorion, 1918-1943, yn dwyn enw Dyddgu Elwyn Jones, merch Tegla Davies.

Ysgrifau

Ymhlith yr ysgrifau mae 'Beirdd y dydd’, Yr Eurgrawn, Chwefror 1913; ‘Ehedydd Iâl trwy lygaid plentyn’, Yr Eurgrawn, Hydref 1917; ‘Ein dyled i’r Eglwys’, Yr Efrydydd, Awst 1926; ‘Efrydiau Catholig’, Yr Eurgrawn, Rhagfyr 1946 ‘Fy ngalwad i’r Weinidogaeth’, Y Winllan, 1954; ‘Diwylliant Gwerin Cymru’, Yr Eurgrawn, Medi 1958; ‘Fy mhererindod llenyddol’, Y Traethodydd, Gorffennaf 1965; ac ‘Wesle olaf Llandegla’, Yr Eurgrawn, 1967.