Showing 9 results

Archival description
Papurau Dewi Stephen Jones
Print preview View:

Papurau Dewi Stephen Jones

  • GB 0210 DEWSONES
  • Fonds
  • 1980-2019

Papurau'r bardd Dewi Stephen Jones, 1980-2019, yn cynnwys drafftiau o gerddi, llythyrau oddi wrth Anne Stevenson, Bobi Jones ac Alan Llwyd, ynghyd â theyrngedau a roddwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth yn 2019. = Papers of the poet Dewi Stephen Jones, 1980-2019, including letters from Anne Stevenson, Bobi Jones and Alan Llwyd, together with tributes on his death.

Jones, Dewi Stephen, 1940-

Drafftiau o'i gerddi

Deg o lyfrau nodiadau yn cynnwys drafftiau o'i gerddi yn bennaf. Mae un ohonynt yn cynnwys llawysgrif ei gyfrol Ffynhonnau uchel (Llandysul, 2012).

Cerddi

Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,

Teyrngedau

Copi o deyrnged Gwynne Williams i Dewi Stephen Jones a gyhoeddwyd yn Nene, papur bro ardal Rhosllannerchrugog, Mawrth 2019; ‘Remembering Dewi Stephen Jones for his Archive’ gan Anne Stevenson, 20 Gorffennaf 2019, ynghyd â ffotograff du a gwyn ohono; a ‘The wrekin’, cyfieithiad gan Anne Stevenson o gerdd Gymraeg gan Dewi Stephen Jones, a soned ‘Caring more than caring’ ganddi, a gyhoeddwyd yn ei chyfrol Astonishment (Bloodaxe Books, 2012), wedi'i chyflwyno iddo.