Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2010, a Chwefror a Mehefin 2011; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2011; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2010-2011 (2011); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2010-2011 (2011); cynllun busnes Cyfarwyddiaeth y Ganolfan, Prifysgol Cymru, 2011-2012 (2011); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2011), oddi wrth Angharad Elias a Dafydd Johnston. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2010, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, a Medi 2011; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 14 (Haf 2011).