Dangos 231 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gilmor Griffiths, Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Non Nobis, Domine,

Copi sgôr 'Non Nobis, Domine' gan Roger Quilter, geiriau Rudyard Kipling wedi eu cyfieithu gan James Arnold Jones. Trefniant ar gyfer côr merched neu blant.

Nos Nadolig Yw,

Llungopi o sgôr 'Nos Nadolig Yw' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan H. D. Healy. Copi teipysgrif 'Iesu faban Mair' ar y cefn.

O dan yr hen lwyfen hardd,

Sgôr mewn llawysgrif o'r alaw Almaeneg, y trefniant S.A. gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries. Hefyd taflen geiriau i'r 'Y Gwcw', 'O dan yr hen lwyfen hardd', ac 'Edelweiss'.

Paid a deud,

Trefniant o'r alaw 'Paid a deud', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Pant Hafod yr Ŵyn,

Trefniant gan Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Pant Corlan yr Ŵyn'. Defnyddiwyd yn gerddoriaeth cefndir yn y ffilm 'Pant Hafod yr Ŵyn', a chynhyrchwyd gan Tudur Aled Davies, Llanelwy, cyn-athro yn Ysgol Glan Clwyd. Saith darn lawysgrif a dau yn llungopïau.

Papurau Gilmor Griffiths,

  • GB 0210 GILGRIF
  • Fonds
  • 1917-2011.

Llawysgrifau cerddorol a phapurau'r cyfansoddwr ac athro, Gilmor Griffiths.

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

Papurau personol,

Papurau personol ac eitemau eraill sy'n perthyn i Gilmore Griffiths. Toriadau i'r wasg syndod ac effemera wedi'u trefnu yn ôl diddordeb. Ychwanegwyd rhai papurau gan ei weddw.

Pawr y defaid,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r aria 'Pawr y defaid yn ddiogel', o'r 'Schafe können sicher weiden' gan J. S. Bach. Geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones. Darn ir llais yn unig.

Pen Dinas,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y Cynhaeaf' gan Gwilym R. Tilsley, i'r gainc 'Pen Dinas' gan Elsbeth Jones.

Pen Dinas,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Dydd o Haf' gan Geraint Lloyd Owen, o'r alaw 'Pen Dinas' gan Elisabeth M. Jones.

Penmynydd,

Llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant ar gyfer S.A.T.B. o eiriau 'Fy Mhrynwr mawr' gan Tom Huws, Rhyl.

Canlyniadau 161 i 180 o 231