Dangos 219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gilmor Griffiths, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhai tonau,

Dau lyfr cerddoriaeth yn ogystal â nifer o dudalennau rhydd, sy'n cynnwys trefniadau a gosodiadau o emynau yn yr hen nodiant a sol-ffa. Y rhan fwyaf o'r cyfnod 1939-1941. Nifer o frasluniau o drefniadau, Dave-'O! Dduw rho i'm dy hedd'; 'O! am ysbryd i weddïo'; Elwyn-'Mae carcharorion angau' a 'Angels from the realm of glory', 1951. (Teitl a threfniant ffeil gwreiddiol).

Y Briallu,

Sgôr mewn llawysgrif o'r gân 'Y Briallu', Gilmor Griffiths a Rhydwen Williams (1916-1997) yn gweithio ar y cyd, ar gyfer cwmni teledu Granada. Geiriau gan Eifion Wyn.

Pwdl Aunty Nellie,

Sgôr mewn llawysgrif o'r gân 'Pwdl Aunty Nellie'. Gilmor Griffiths a Rhydwen Williams (1916-1997) yn gweithio ar y cyd, ar gyfer cwmni teledu Granada.

Geirda personol,

Geirda gan T. E. Davies, Ysgol Acrefair i Fechgyn, 1939; Parch. J. Knighton Jones, Ficer y Rhyl, 1957; J. Idwal Jones, Tŷ Cyffredin (d.d.); Haydn H. Thomas, Ysgol Glan Clwyd, 1960.

Pant Hafod yr Ŵyn,

Trefniant gan Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Pant Corlan yr Ŵyn'. Defnyddiwyd yn gerddoriaeth cefndir yn y ffilm 'Pant Hafod yr Ŵyn', a chynhyrchwyd gan Tudur Aled Davies, Llanelwy, cyn-athro yn Ysgol Glan Clwyd. Saith darn lawysgrif a dau yn llungopïau.

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths,

Llyfr gwaith Gilmor Griffiths, yn cynnwys trefniadau lawysgrif gan Gilmor Griffiths, o'r alawon: 'Brother James's air', descant a chyfeiliant gan Gordon Jacob, geiriau Gwilym R. Jones; 'Pan gerddodd Mair i'r deml Gynt', gan Johannes Eccard, cyfieithiad Gwilym Rhys; 'Duw hollalluog' gan Gilmor Griffiths, geiriau Leslie Harries; 'Mwyn ddiddanwch', trefniant Gilmor Griffiths o waith G. F. Handel, geiriau gan James Arnold Jones; 'Cymer Arglwydd feinioes i', gan Gilmor Griffiths, cyfieithiad John Morris-Jones; 'Erw Faen', gan Gilmor Griffiths.

As I went out a strolling,

Trefniant o'r alaw 'As I went out a strolling' (llunell cyntaf) ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr gyda geiriau. Yr enw 'Bernard Woolford , Ruthin Castle', 1971, sef Cyfarwyddwr a stiward y gwledda ar y cefn.

Bugeilio'r gwenith gwyn,

Trefniant o'r alaw 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn', (lleisiau S.S.A.) ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Linden Lea,

Trefniant o'r alaw draddodiadol 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr a sol-ffa gyda geiriau teipysgrif.

My little Welsh home,

Trefniant o'r alaw 'My little Welsh home', cyfansoddiad a geiriau gan W. S. Gwynn Williams, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrifau o sgôr, ac un anghyflawn, gyda geiriau.

Canlyniadau 1 i 20 o 219