- 1/1/3/1
- Ffeil
- [1951x1963]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Nodiadau a baratowyd ar gyfer darlith dosbarth nos gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl Y gynghanedd, beth yw hi?
Rhan oPapurau Waldo Williams
Nodiadau a baratowyd ar gyfer darlith dosbarth nos gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl Y gynghanedd, beth yw hi?
Rhan oPapurau Waldo Williams
Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Toriad papur newydd yn cynnwys copi o'r gerdd Yr Heniaith gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 20 Hydref 1948 o'r Faner.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.
Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.
Ysgrif goffa Angharad Williams
Rhan oPapurau Waldo Williams
Ysgrif goffa i Angharad Williams a gyhoeddwyd yn y Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News, 9 Mehefin 1932.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa Elsie Lewis, Abergwaun.
Ysgrif goffa Gwladys Llewellyn
Rhan oPapurau Waldo Williams
Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa Gwladys Llewellyn. Bu farw yn Glasfryn, Llanwnda, Wdig, Sir Benfro, cartref Benni ac Elsie Lewis (am Benni ac Elsie Lewis, gweler dan bennawdau Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams, Dilys Williams - Gohebiaeth oddi wrth Dilys Williams, a Cyfeillion a chydnabod Waldo Williams.
Ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins
Rhan oPapurau Waldo Williams
Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins, gweinidog Capel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Sir Benfro, sef addoldy rhieni Waldo Williams pan oeddent yn byw yno yn ystod blynyddoedd cynharaf Waldo. 'Roedd John Jenkins yn sosialydd ac yn gyfaill agos i John Edwal Williams, tad Waldo. Bu ei fab, W. J. (William James) Jenkins, yn gyfaill bore oes i Waldo.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Toriadau papur newydd yn cynnwys ysgrifau coffa Benni Lewis, Wdig.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Torion papur newydd yn cynnwys ysgrifau coffa i Waldo Williams. Bu farw Waldo ar yr 20fed o Fai 1971.