Dangos 90 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Dolen Cymru Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau a phapurau eraill

Llythyrau a phapurau eraill, gan gynnwys datganiad ymddiriedaeth, 1985; apêl am flancedi ar gyfer Lesotho, 1986; rhestr o gysylltiadau ysgol, 1987; cynnig i gysylltu dinasoedd Caerdydd a Maseru, 1989; a chynnwys gohebiaeth rhwng aelodau a chydag Uchel Gomisiwn Lesotho, y Cyngor Prydeinig a'r Comisiynwyr Elusennau.

Iechyd

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau, papurau pwyllgorau a.y.b.

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud yn bennaf ag iechyd, gan gynnwys cyfieithiad Saesneg o adroddiad ar ymweliad â Lesotho mewn cyfnodolyn meddygol Almaeneg, c.1987; adroddiad ar ymweliad â Lesotho gan Dr Hywel Morris, ysgrifennydd Cymdeithas Feddygol Cymru, 1988; trefniadau ar gyfer ymweliad â Chymru gan Dr Burns Machobane, gweinidog addysg Lesotho, 1989; trefniadau ar gyfer ymweliad Isron Molefe Sello ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 1989.

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol (1991-1993 yn bennaf), gan gynnwys papurau sy'n ymwneud â Darlith Flynyddol gyntaf Dolen Cymru gan O. T. Sefako, 1991; copïau o Ysgol Alwedigaethol L.N.C.W Makhethisa, Pitseng, rhifau 1-4, 1991-1992; a cheisiadau grant y Loteri a Chomic Relief, 1997-2000.

Gohebiaeth amrwyiol

Llythyrau, cardiau post a phapurau cysylltiedig (1992-1995 yn bennaf), a anelwyd yn bennaf at Carl Clowes, gan gynnwys ymweliad Carl a Dorothy Clowes â Lesotho, Mawrth 1995, ac ymweliad côr ieuenctid Maseru Vocal Waves i Gymru, Gorffennaf 1995. Hefyd rhaglen a thocynnau ar gyfer y premier Ewropeaidd o 'First Knight' yng Ngholisëwm Porthmadog, Gorffennaf 1995.

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol, gan gynnwys yn ymwneud â sefydlu Dolen Cymru; dewis gwlad bartner, 1983-1984; a cheisiadau am nawdd.

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud yn bennaf ag iechyd, yn bennaf ond nid yn unig, gan gynnwys poster ar gyfer 'Arian byw!', cyngerdd roc Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, gan gynnwys Sankomata o Lesotho, 1985.

Gohebiaeth amrwyiol

Gohebiaeth amrywiol a phapurau cysylltiedig, gan gynnwys papurau yn ymwneud â chyfieithu gan Elenid Jones o 'astudiaeth gwlad' gan Sefydliad Brenhinol Trofannol yr Iseldiroedd ar Lesotho i'r Saesneg a'r Gymraeg ar gyfer Gwasg Gwynedd, 1989-1990; datblygiad 'Cymru'n canu dros Lesotho' fel llinyn o fewn thema 'Ffrindiau' ar gyfer Gŵyl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin 1991; a cheisiadau am nawdd.

Canlyniadau 41 i 60 o 90