Ysgol Sirol / Ramadeg Llandysul
- A7/5
- Ffeil
- 1897-1962
Rhan oArchif Gwasg Gomer
Mae'r ffeil yn cynnwys papur pleidleisio ar gyfer Etholiad Teirblynyddol Bwrdd Ysgol ar gyfer plwyf Llandysul, 1897 (argraffwyd a chyhoeddwyd gan J. D. Lewis); llythyr, 10 Gorffennaf 1911, at John D. Lewis, oddi wrth [Major] Herbert Cass, Dol-llan, Llandysul yn gofyn am gael gwyliau i blant yr ysgol; llythyr (printiedig), Tachwedd 1911, oddi wrth Ysgrifenyddion Mygedol Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, yn hysbysu bod y tanysgrifiad blynyddol yn ddyledus, a cherdyn gwahodd i aduniad i'w gynnal ar 26 Rhagfyr 1911; ynghyd â chywydd agoriadol ar achlysur ‘Agor Adeiladau Newydd i’r Ysgol, Mai 31, 1962’ gan T. Llew Jones, yn ei law ef, pan agorwyd cyfres o adeiladau newydd ar gampws Ysgol Ramadeg Llandysul ym Mai 1962.