Showing 60 results

Archival description
Archif Gwasg Gomer
Print preview View:

Llyfr cyfrifon

Cyfrol gyda ‘LEDGER’ wedi’i stampio ar y meingefn (ac ymddengys bod label a fu unwaith ar y meingefn wedi’i golli), yn nodi enwau’r cleient a chyfrif o’r breindaliadau. Ceir mynegai ar ddechrau’r gyfrol.

Tanysgrifiadau papur newydd

Llyfryn nodiadau gyda ‘List of London Weekly Newspapers &c’ wedi ysgrifennu ar y dudalen gyntaf [nid oes clawr i’r llyfryn] a ‘commenced Nov. 9 / 89’ ar frig y dudalen, ynghyd â stamp ‘John D. Lewis, Bookseller, Market Stores Llandyssul’. Rhestrir teitlau a thanysgrifwyr.

Casgliad effemera John D. Lewis

Casgliad o’r hyn a argraffwyd gan Rees & Evans, Swyddfa’r ‘Herald’, Caernarfon; Harrison & Sons, Printers in Ordinary to His Majesty, St. Martin’s Lane; Cwmni y Wasg Eglwysig Gymreig, Llanbedr Pont Steffan; J. Gibson, Cambrian News Printing Works, Aberystwyth; M. M. & W. R. Thomas, Steam Printers, Aberteifi; ‘Journal’ Caerfyrddin; M. Jones, Heol y Prior, Caerfyrddin; a H. Evans, Bala.
Ceir yr eitemau canlynol: taflen Undeb y Cymdeithasau Cymraeg Adran Dyfed yn hysbysu am gyfarfod ar fore’r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (17 Awst 1916); ‘Barddoniaeth gan hen awdwyr, or Ancient Welsh Poetry. Ex No. 2161, inter MSS. Phillips, apud Middle Hill’, tt.1-4; carden yn hysbysu arddangosfa ‘Centenary of Introduction of Printing at Aberystwyth’ (1909); pennill gyda’r llinell gyntaf: “Cawsom blant rifedi 12”; ‘Rheolau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru’ (Caernarfon, 1875); ‘On a Scheme for Rendering the Charters and MSS. in the Various repositories available for County Purposes by Professor W. A. Copinger, F.S.A. (Congress of Archaeological Societies in Union with the Society of Antiquaries, July 3rd, 1907)’; ‘Pwnc y Pasc’ gan T. Meredith Williams, Ficerdy Llanarth; erthygl “About Book Collecting” allan o The Printing Machinery Record, tt. 15-16; llyfryn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (d.d.); copi 27 Mawrth 1903 o ‘Y Cardi’; erthygl “English Book-plates” gan Russell Nadin allan o The Bazaar, the Exchange and Mart, 5 Ebrill 1907, tt. 957-960; ‘Catalogue of Welsh Literature’ Goronwy Williams, Cymric Book Stores, Ruthin (1913); ‘Sale of Antique & Modern Household Appointments’ Glandenys, Llanbedr Pont Steffan (8 Medi 1909); ‘Yr Eglwys a’r Etholiad. Dyletswydd Etholwyr’ gan Yr Esgob Owen; taflen etholiad David Davies (Etholiad Cyffredinol Sir Aberteifi, 1885); marwnad ‘Cwyn Coll am Dafydd Thomas (Dewi Hefin)’ gan Myfyr Arthen [1909]; ‘Rhaglen o Destynau Eisteddfod Gadeiriol Abercych’ (1899); rhaglen ‘A Chair Eisteddfod’ Llansteffan, 1903; llyfryn ‘Caricatures of famous men’ gan J. H. Lunn; dau gopi o ‘Prophwydoliaeth Myrddin Wyllt; yn nghyda ber hanes o’i fywyd, wedi eu tynu allan o Lyfr y Daroganau’, gydag un ag arysgrif ‘John Jenkins, Farmfach, Llandyssul 18[87]’ ar frig y dudalen deitl a’r llall yn gopi anghyflawn a gyhoeddwyd yn 1839; ‘Deuddeg o Gerddi Cymru, hen a diweddar’.

Papurau newydd a chylchgronau

Copi o ‘The Cardigan & Tivy-Side Advertiser’ ar gyfer 24 Medi 1907 a chopi 18 Medi 1992 yn nodi dathliad canmlwyddiant Gwasg Gomer a dalen o’r 'Western Mail' ar gyfer 7 Rhagfyr 1959 yn nodi canmlwyddiant geni J. D. Lewis, sylfaenydd y wasg [2 gopi].

Llyfr lloffion Edward Lewis

Cyfrol gyda ‘Scrap Book’ wedi’i stampio ar y clawr a ‘Edward Lewis Gomerian Press Llandyssul 28/5/24’ wedi’u hysgrifennu â llaw y tu mewn i’r clawr blaen, yn cynnwys toriadau papur newydd yn ymwneud â theulu’r Lewisiaid, y Wasg ac eitemau o ddiddordeb lleol. Ceir hefyd dalen wedi’i bastio sy’n cynnwys llofnodion Llysgenhadon Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1943.

Biliau cyfreithwyr

Bil David Lewis, [???? gwehydd, Llandysul [gwr Mary Jones, Caebach???] am wasanaeth John Jones, Cyfreithiwr, Llandysul, 1866; bil John D. Lewis, Market Stores am wasanaeth Evans & Thomas, Cyfreithwyr, Llandysul, ynglŷn â phrynu The White Lion, Llandysul, 1892; bil Hannah Lewis, Gomerian Press am wasanaeth Messrs Evans & Thomas, Cyfreithwyr, Llandysul, ynglŷn â’r diweddar John D. Lewis, 1914.

Eiddo ar Stryd y Gwynt

Mae'r ffeil yn cynnwys biliau a derbynebau, 1894, wrth adeiladu tŷ a siop newydd yn Stryd y Gwynt, Llandysul [Gomerian Press]; catalog arwerthiant ‘Sale of portions of the Cilgwyn Estate’, 20 Ebrill 1932, yn cynnwys Memorandwm Edward Lewis ar gyfer Lot 59, dyddiedig 13 Ebrill 1932, sef rhydd-ddaliad y tŷ a’r siop a adeiladwyd gan ei dad yn 1894; a gohebiaeth, 1938-1939, rhwng Messrs J. D. Lewis & Sons a Messrs Hastie, Lincoln's Inn Fields, Llundain a F. M. L. Fitzwilliams parthed Lots 57, 58 a 144 yn perthyn i Ystâd Cilgwyn.

Pregethau David Lewis

Tri llyfryn nodiadau o eiddo David Lewis, Red Lion, Llandysul yn cynnwys un bregeth yr un: pregeth ar Ioan 12:21 (traddodwyd gyntaf yn 1860); Rhufeiniaid 5:8 (traddodwyd gyntaf yn 1862) a Jwdas 3 (traddodwyd gyntaf yn 1864). Ceir rhestr ymhob llyfryn yn nodi pryd a phle y traddodwyd y bregeth.

Dyddiadur lluosflwydd John D. Lewis

Cyfrol gyda ‘THE PERENNIAL DIARY’ wedi’i stampio ar y clawr a ‘John D. Lewis, Gomerian Press, Llandyssul’ wedi’i ysgrifennu â llaw ar y dudalen rwymo. Cyhoeddwyd y dyddiadur yn 1889, ond ceir cofnodion o 1860 hyd at 1901. Mae derbynneb, dyddiedig 26 Mai 1892, am ‘printing plant’ a brynwyd wrth A. Wheeler, Aberhonddu wedi’i bastio ar dudalen rhwymo yng nghefn y gyfrol. Dyma’r peiriant a brynwyd i ddechrau’r gwaith argraffu yn Llandysul.

Ysgol Sirol / Ramadeg Llandysul

Mae'r ffeil yn cynnwys papur pleidleisio ar gyfer Etholiad Teirblynyddol Bwrdd Ysgol ar gyfer plwyf Llandysul, 1897 (argraffwyd a chyhoeddwyd gan J. D. Lewis); llythyr, 10 Gorffennaf 1911, at John D. Lewis, oddi wrth [Major] Herbert Cass, Dol-llan, Llandysul yn gofyn am gael gwyliau i blant yr ysgol; llythyr (printiedig), Tachwedd 1911, oddi wrth Ysgrifenyddion Mygedol Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Sirol Llandysul, yn hysbysu bod y tanysgrifiad blynyddol yn ddyledus, a cherdyn gwahodd i aduniad i'w gynnal ar 26 Rhagfyr 1911; ynghyd â chywydd agoriadol ar achlysur ‘Agor Adeiladau Newydd i’r Ysgol, Mai 31, 1962’ gan T. Llew Jones, yn ei law ef, pan agorwyd cyfres o adeiladau newydd ar gampws Ysgol Ramadeg Llandysul ym Mai 1962.

Dyddlyfr

Cyfrol gyda ‘DAY BOOK’ wedi’i stampio ar y meingefn, a ‘John D. Lewis Gomerian Press, Llandyssul Oct 13 / 13’ wedi’i ysgrifennu â llaw y tu mewn, sef “Printing Day Book” yr argraffwasg yn cofnodi gwaith dyddiol y cwmni ar gyfer Hydref 1913 i Hydref 1919.

Llyfr cyfrifon

Cyfrol gyda ‘LEDGER’ wedi’i stampio ar y meingefn a label yn nodi ‘Royalties’, yn nodi enwau’r cleient a chyfrif o’r breindaliadau. Ceir mynegai ar ddechrau’r gyfrol.

Cardiau 100 oed

Cardiau a dderbyniodd Gwasg Gomer ar achlysur dathlu pen-blwydd y cwmni yn 100 oed wrth ddisgyblion Ysgol Gymraeg Caerffili yn bennaf.

Llythyrau

Llythyr oddi wrth Yr Athro Syr Elihu Lauterpacht (2012), D. Geraint Lewis (2016), a charden a dalen wrth Kyffin Williams (c. 2000).

Results 1 to 20 of 60