Dangos 51 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Chomisiwn y Gweithly; Cymraeg Yn Y Gweithle; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth; apêl ariannol; Plas Pistyll

Gohebaieth a phapurau, yn ymwneud â Chomisiwn y Gweithly (1987), Cymraeg Yn Y Gweithle (1990), Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a chyrsiau (1992-1993); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1984-1986); papurau trafod (1987-1988); apêl ariannol (1983); digwyddiadau (1986-1988); a datblygu Plas Pistyll (1989-1991).

Calendr y Nant; materion staff; Addysg i Oedolion; awdurdodau lleol; Cyngor Llyfrau Cymru; trefni gyrsiau a digwyddiadau; grantiau; yswiriant

Gohebiaeth a phapurau gweinyddol amrywiol, 1986-1995, yn ymwneud a gweithgareddau a gwasanaethau’r Nant, yn cynnwys papurau yn ymwneud â noddi calendr y Nant (1993); materion staff (1993-1994); Addysg i Oedolion (1994); awdurdodau lleol (1987, 1993); y Cyngor Llyfrau Cymru (1994); trefnu gyrsiau a digwyddiadau (1986-1995); marchnata (1993); grantiau ariannol (1987-1988); yswiriant (1986-1987); torion o’r wasg (1991-1992); a’r adroddiad blynyddol, 1987. Yn ogystal, ceir rhai copïau o’r cylchgrawn ‘Prentis’ (1992-1994).

Ariannol

Gohebiaeth a phapurau, 1972-1994, yn ymwneud â materion a gweinyddiaeth ariannol, yn cynnwys rhoddion, nawdd, cyflog, derbyniadau, taliadau, anfonebau, grantiau, a phryni eiddo. Yn ogystal, ceir catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891).

Archebion; holiaduron; Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn; Y Comisiwn Elusennau; EWROSGOL; cynlluniau adeilad; arwyddion; agoriad Caffi Meinir; Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â materion amrywiol datblygu safle ac adeiladau Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys archebion llety ([?1990]x[?1995]); holiaduron (1994); materion ariannol (1993-1994); Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn (GANG) (1992); Y Comisiwn Elusennau (1993-1994); Pwyllgor Gwaith Ewrosgol (1990); werthiant Plas Pistyll (1993); Cofrestrau Cyfamodi (1988); Cynllun Adfer Tir (1991); cynlluniau adeilad (1981); Coed Cymru (1993); eiddo a dodrefn (1992-1993); arwyddion (1992); iechyd a diogelwch (1991); ac agoriad Caffi Meinir (1991-1993). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys X2 print lliw o’r Nant, ([?1990]-[?1995]), a nifer o dorion o’r wasg (1972; 1976; 1993-1994).

Anfonebau; cofnodion cyfarfodydd; derbyniadau; a nawdd

Gohebiaeth a phapurau, 1987-1993, yn ymwneud â materion ariannol, gyda rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys anfonebau (1987-1990); hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1988-1993), adroddiadau (1989), ariannu prosiect a nawdd (1989-1990), llyfr derbyniadau (1989), a chofnodion oriau gweithio staff (1990).

Anfonebau; a chatalog sêl Tŷ Canol

Papurau, 1978-2001, yn ymwneud â materion ariannol, y rhan fwyaf yn anfonebau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys mapiau (1979-1980); catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891); a thorion o’r wasg (1980-1981).

Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre

Achos llys HTV, yn cynnwys datgeliadau i'r llys

Papurau gweinyddol, gohebiaeth, a chofnodion cyfarfod, 1978-1979 a 1989-1992, yn ymwneud ag achos llys Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil yn cynnwys cyfieithiad o ddatgeliadau, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau (1989-1992), yn ymwneud â’r ymddiriedolaeth, datblygu Plas Pistyll, costau, cynllun busnes, cyfweliadau, copïau o’r tystysgrifau cofrestru morgais, copi o’r sgript rhaglen ‘Y Byd ar Bedwar’ (1992) a chofnodion cyfarfod, manylion costau a chredwyr; bwndl wedi’i labelu ‘File/Bundle 2’, yn cynnwys gohebiaeth a phapurau amrywiol (1989-1992), yn ymwneud a phrynu Plas Pistyll , y cynlluniau datblygu, a materion ariannol; a chopïau o atodiadau wedi’i rhifo 1, 3-6, yn cynnwys papurau a gohebiaeth (1978-1979 a 1989-1991), yn ymwneud a prynu a datblygu Plas Pistyll, a chopïau o gweithredoedd ymddiriedolaeth.

Canlyniadau 41 i 51 o 51