Print preview Close

Showing 9 results

Archival description
Papurau John Thomas (Ffotograffydd)
Print preview View:

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â John Thomas a'i waith, gan gynnwys llythyr at John Thomas dyddiedig 5 Hydref 1899; rhestr yn llaw John Thomas o'r llyfrau yn ei feddiant, y rhan helaeth ohonynt o natur ddiwinyddol a llenyddol; bras nodiadau o feddargraffiadau ac englynion yn llaw John Thomas; llythyrau oddi wrth Alistair Crawford, darlithydd yn Adran Gelf Prifysgol Cymru Aberystwyth, [?at aelodau o deulu John Thomas] ynghylch arddangosfa yn ymdrin â bywyd a gwaith John Thomas; llungopïau o ffotograffau o John Thomas ac o rai o'r portreadau carte-de-visite ac in memoriam a wnaethpwyd ganddo; a dwy goeden deulu yn dangos cysylltiadau teuluol John Thomas o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.

Enwogion Cymreig

Nodiadau yn llaw John Thomas ar rai o enwogion Cymru, yn bennaf o'r meysydd diwinyddol a llenyddol, gan gynnwys y bardd a'r athro Ebenezer Thomas ('Eben Fardd') (1802-1863), y bardd a'r anterliwtydd Thomas Edwards ('Twm o'r Nant') (1739-1810) a Howel Harris (1714-1773), un o arweinyddion y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.

Papurau John Thomas (Ffotograffydd)

  • GB 0210 JOHMAS
  • Fonds
  • [1867x2018]

Papurau'r ffotograffydd John Thomas, Lerpwl, gan gynnwys atgofion teithio a nodiadau John Thomas ar hanes y Cambrian Gallery ac am enwogion Cymreig; deunydd print yn gysylltiedig â'r oriel; a deunydd amrywiol mwy diweddar yn ymwneud â John Thomas a'i fusnes ffotograffiaeth.

Thomas, John, 1838-1905

Y Cambrian Gallery

Deunydd yn ymwneud a'r Cambrian Gallery, Lerpwl, gan gynnwys llyfr nodiadau yn llaw John Thomas yn olrhain hanes yr oriel; llyfryn printiedig a gyhoeddwyd gan y Cambrian Gallery yn hysbysebu argraffiadau o cartes-de-visite dan wahanol benawdau (beirdd, llenorion a chantorion, cenhadon a gweinidogion yn ôl eu henwad); catalog printiedig yn hysbysebu ocsiwn o ddodrefn y Cambrian Gallery; nodiadau ar hanes y Cambrian Gallery mewn llaw diweddarach; torion papur newydd yn ymwneud â bywyd a gwaith John Thomas; a llungopïau o ffotograffau o John Thomas ac o rai o'r portreadau carte-de-visite ac in memoriam a gyhoeddwyd gan y Cambrian Gallery.