Showing 34 results

Archival description
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent File Welsh
Print preview View:

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Asiantwyr Tai a Chyfrifwyr Siartredig

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau, 1989-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith a’i Grŵp Diwylliant; llyfrgelloedd Caerdydd; asiantwyr tai; a chyfrifwyr siartredig, yn ymwneud â statws yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglennu radio a cherddoriaeth; datganiad i’r wasg; copi o’r Llawlyfr Deddf Eiddo; a nifer o ffotograffau.

Colegau

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1988-1997, yn trafod polisïau iaith Gymraeg o fewn sefydliadau addysgol yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Swyddfa Gymraeg; y Gymdeithas Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Coleg Glan Hafren; Coleg Castell Nedd; a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg (1997) Cyngor Hyfforddi a Menter Morgannwg Canol; copi o adroddiad interim ‘Cwricwlwm Cenedlaethol Y Gweithgor Cymraeg’ (1988); datganiad i’r wasg (1989); a chopi o Gynllun Strategol y Coleg Cerdd a Drama Cymru (1990).

Lears; Halfords; Lloyds Chemist; Littlewoods; Lakeland; Laura Ashley; PC World; Panasonic; Partners; Peacocks

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1986-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a storfeydd cenedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg, yn cynnwys llythyrau (1995-1996), o’r Arglwydd Hooson. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996); cofnodion cyfarfod (1990); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Results 1 to 20 of 34