Dangos 121 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfres / Series Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Pwyllgor Ariannu Ysgolion (A-DEB-44),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd adolygu holl ffynonellau incwm, pa fodd bynnag y caiff ei gynhyrchu, sy'n creu cyllid ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; adolygu'r modd y caiff arian ei ddosbarthu rhwng ysgolion a gynhelir, cynradd ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion; ystyried effaith cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y DU ar gyllid ysgolion; gwneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol ynghylch symleiddio'r system a'i gwneud yn gliriach. Archwilio ac adolygu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno system ariannu dair blynedd ar gyfer ysgolion.

Y Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr (A-DEB-46),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd llunio rhaglen o welliannau i seilwaith y rheilffyrdd a gwasanaethau i deithwyr, a hynny mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhain yn gyraeddadwy ac wedi'u costio; gwneud argymhellion i'r Cynulliad ynghylch y gwelliannau hynny.

Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (A-DEB-27),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd cylchwaith y Gweinidogion yn cynnwys yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy; cynllunio gwlad a thref; materion cefn gwlad a chadwraeth; ac amaethyddiaeth a datblygu gwledig, yn cynnwys coedwigaeth a chynhyrchu bwyd.

Canlyniadau 21 i 40 o 121