Showing 42 results

Archival description
Papurau T. Glynne Davies
Print preview View:

Torion

Torion yn ymwneud â’i lwyddiannau llenyddol, yn arbennig ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; adolygiadau o’i nofel Marged; ei erthyglau i’r Western Mail; a theyrngedau iddo.

Barddoniaeth

Cerddi cynnar a diweddarach; drafftiau o'i bryddest fuddugol 'Adfeilion', ynghyd â'r ddwy bryddest anfuddugol 'Wynebau' a 'Llwch'.

Llwch

Drafftiau o’i bryddest anfuddugol ‘Llwch’, Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1986, ynghyd â nodiadau gwreiddiol a'r drafft cyntaf .

Cyfansoddiadau eraill

Drafftiau o nofelau ‘Tregwmwl’ (Pan euthum yn ŵr) a ‘Twll yn y bocs’; stori fer anghyflawn 'Y siou'; ? stori fer 'Y gŵr sicr ei sail'; ‘Madam Miranda Mason’, stori fer hir yng nghystadleuaeth y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol ? a'i gyfieithiad o stori fer T. Hughes Jones ‘Sgweier Hafila’ i’r Saesneg ar gyfer The Penguin book of Welsh short stories a olygwyd gan Alun Richards a llythyrau oddi wrtho, 1974.

Llongyfarchiadau, 1951

Llythyrau a thelegramau'n ei longyfarch ar ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, ynghyd â'r dystysgrif a dderbyniodd oddi wrth Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Results 1 to 20 of 42