Showing 12 results

Archival description
Sgriptiau Gwynne D. Evans
Print preview View:

Dramâu Cymraeg

Sgritptiau gan gynnwys ’ Y groes grwca’, 1946;’ Yr Etifeddwyr’ (drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955) a ddarlledwyd yn 1956; ‘Corn Beca’, drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955 a sgriptiau radio, 1956 a 1964; ‘Sadwrn’, darlledwyd yn 1965; ‘Cartref’, drama un act, 1961, a chyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963 , a drama deledu, 1967.

Amrywiol

Llyfr nodiadau ar ‘stage costumes’ a gwaith meim a beirniadaeth Gwynne D. Evans ar gystadleuaeth ysgrifennu drama un act Cymdeithas Ddrama Cymru 1967, ynghyd ag amrywiaeth o sgetshis ganddo a phapurau personol.

Dramâu Cymraeg

Sgriptiau gan gynnwys ’Does unman yn debyg’, 1969; ’ Nos fory. Ystradmynach’ a'r trosiad 'Tomorrow night Ystradmynach', 1972; ‘Priodas dda’, 1973; ‘Angladd i bawb’, 1973; a drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974; ‘Pen y daith’, 1976, i ddathlu pedwar canmlwyddiant Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth i Fechgyn, ynghyd â rhaglen; a ‘Nid heb anrhydedd’ a ‘Not without honour’, 1976.

Under Milk Wood

Papurau’n ymwneud â’r Llareggub Players y bu Gwynne D. Evans yn gynhyrchydd arnynt. Ceir poster a rhaglenni, ynghyd â chopi cynnar o drosiad T. James Jones sef Dan y Wenallt, [1967].

Sgriptiau Gwynne D. Evans

  • GB 0210 GWYDEV
  • Fonds
  • 1917-1988

Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.

Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-

Dramâu Saesneg

Sgriptiau gan gynnwys ‘Judith’; ‘A bride for Moc’; ‘A fight for boyo’; ‘On a Saturday’; a ‘Children of the white gloves’, ynghyd â sgript 'The voice of Merlin. A pageant of Carmarthenshire' gan Ken Etheridge a Gwynne D. Evans.

Slawer dydd

Papurau’n ymwneud â ‘Slawer dydd’, rhaglen arbennig i ddathlu canmlwyddiant Eglwys y Bedyddwyr Tabor, Cross Hands.

Dramâu Saesneg

Sgriptiau gan gynnwys ‘New lamps for old’, 1948; ‘Home sweet home’ (translation of ‘Cartref’), [1961]-[1963]; ‘The lilac tree’, 1968; ‘Escape route’; 'A fight for boyo', 'The milestone' ac 'At the milestone' ; 'The green parrot'; 'Black pastures'; 'Muted strings' a ‘Not without honour’ (drafft cyntaf, 1979).

Pobol y Cwm

Sgriptiau, 1974-1976, 'Pentrefelin’, gan gynnwys sgript camera, 1975 a sgript ymarfer, 1976, syniadau gan Harri Pritchard Jones ynghylch y ddrama gyfres ‘Y Felin’ a thorion o’r wasg am ‘Pobol y Cwm’.

Gohebiaeth

Llythyrau yn ymwneud â byd y ddrama, gan gynnwys llythyr oddi wrth y dramodydd E. Eynon Evans, 1974.