Print preview Close

Showing 81 results

Archival description
Archifau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol English
Advanced search options
Print preview View:

Is-grŵp E-ddysgu a Dysgu Cyfunol

Gofnodion y Grŵp, a grëwyd i gynorthwyo Grŵp Sector Addysg Uwch (AU) Cyfrwng Cymraeg a'r sector i ddelio â materion sy'n ymwneud âg E-ddysgu a Dysgu Cyfunol. Mae prif amcanion y grŵp yn cynnwys pennu cyfeiriad ar gyfer datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyd-destun hwn, creu strwythur sector-cyfan ar gyfer rhannu arbenigedd ac arfer da, ac i baratoi adroddiad (gyda phartneriaid eraill) ar y defnydd o dechnegau E ddysgu a Dysgu cyfunol mewn perthynas â dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Agendâu, cofnodion a phapurau cysylltiedig.

Is-grŵp Hyfforddiant a Datblygu Staff

Gofnodion y Grŵp, a grëwyd i gynorthwyo Grŵp Sector Addysg Uwch (AU) Cyfrwng Cymraeg a'r sector i ddelio â materion sy'n ymwneud â hyfforddiant a datblygiad staff. Papurau cyfarfod yn bennaf sy'n cynnwys agandâu, cofnodion a phapurau trafod cysylltiedig.

Is-grŵp Marchnata, Dilyniant ac Ysgogi Galw

Deunydd sy'n ymwneud â gwaith y grŵp, a grëwyd i farchnata a'r hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg uwch. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd cofnodion, 2004-2006, Is-grŵp Marchnata a Dilyniant a oedd yn rhan o'r Grŵp Llywio Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg. Mae papurau yn cynnwys agendâu, cofnodion ac adroddiadau.

Mantais

Deunydd yn ymwneud â 'Mantais', ymgyrch farchnata fawr i hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru i addysgwyr a myfyrwyr. Mae’r deunydd yn cynnwys gohebiaeth, papurau ac adroddiadau'r gweithgor, adroddiadau a strategaethau gan y sector addysg yng Nghymru, print marchnata a phapurau yn ymwneud â digwyddiadau a chynadleddau.

Marchnata

Deunydd yn ymwneud â gweithgareddau marchnata Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan gynnwys gwybodaeth am yr ymgyrch Mantais (i hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg yng Nghymru), y cyhoeddiad Gwerddon, Pontio, a gweithgareddau hyrwyddo debyg y Coleg. Mae papurau yn cynnwys gohebiaeth, papurau ac adroddiadau gweithgorau, deunydd print marchnata, papurau cyfarfod y panel golygyddol Gwerddon, a chopïau o strategaethau ac adroddiadau cenedlaethol.

Results 41 to 60 of 81