CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown
- GB 0210 SEILOJ
- fonds
- [?1935]-1999
Mae'r fonds yn cynnwys ffolder o gofysgrifau cyffredinol yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'i gweithgareddau cymdeithasol.
Capel Seilo (Johnstown, Wales)
CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown
Mae'r fonds yn cynnwys ffolder o gofysgrifau cyffredinol yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'i gweithgareddau cymdeithasol.
Capel Seilo (Johnstown, Wales)
Cofysgrifau Cyffredinol y Capel
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud ag atgyweirio a phrynu drysau newydd, 1938; mantolen a rhestr o gyfraniadau aelodau 'Drama Cwmni Dan Matthews', [?1935]; hanes llawysgrif yr achos 'Siloh - Johnstown, 1895-1945: Hanes yr Achos'; copi o Eglwys Bresbyteraidd Seilo Johnstown, Llawlyfr Canmlwyddiant: 1894-1994, 1994; toriad papur newydd am hanes y Capel o Nene, Chwefror 1994; nodiadau llawysgrif am hanes yr achos, 1997 a 1999, gyda rhai llungopïau perthnasol; llawysgrifau o adroddiadau blynyddol mewn ffurff drafft, 1944-1946, gyda phroflenni, a chopïau o adroddiadau blynyddol, 1996-1998, fel allbrintiau; llythyrau parthed cyfarfod i drafod problemau'r Capel, 1999; copi o 'Adroddiad yr Ystadegydd am 1998'; rhestr o aelodau'r Capel gyda'r ffurflenni yn dangos eu dewis ynghlych y bwriad i gau'r Capel, a chopi o lythyr yn nodi bod yr achos wedi dod i ben.