Showing 1 results

Archival description
Barddoniaeth John Jones, Glanygors
Print preview View:

Barddoniaeth John Jones, Glanygors

  • NLW MS 23942B.
  • File
  • [1795]-[1811]

Llawysgrif yn cynnwys pump cerdd ar hugain, [1795]-[1811] (dyfrnod 1795), yn llaw John Jones (Jac Glan-y-Gors), gan gynnwys tair cerdd ar ddeg nad ydynt, fe ymddengys, wedi eu cyhoeddi (ff. 1-39 verso); dyddiwyd y cerddi 1790-1811. = A volume containing twenty-five autograph poems, [1795]-[1811] (watermark 1795), by John Jones (Jac Glan-y-gors), thirteen of which are apparently unpublished (ff. 1-39 verso); the poems are dated 1790-1811.
Cyhoeddwyd naw o'r cerddi (ff. 6 verso-8, 16-18, 22-25, 31 verso-35 verso, 36 verso-39 verso) yn Cerddi Jac Glan-y-gors, gol. gan E. G. Millward (Llandybïe, 2003), tt. 26-30, 45-51, 57-58, 69-70, 76-81, 95-97, 137-138; cyhoeddwyd 'Litani Newydd...' (f. 15 recto-verso) ac 'Englynion er coffadwriaeth am Mr David Samwell...' (ff. 20 verso-21 verso) yn y Chester Chronicle, 5 Awst 1796 a 28 Rhagfyr 1798 yn eu tro (gw. Marion Löffler, 'Cerddi newydd gan John Jones, "Jac Glan-y-Gors"', Llên Cymru, 33 (2010), 143-150); cyhoeddwyd 'Cerdd o ymddiddan rhwng J. J. Glan y Gors a Daniel Davies o Gorwen y ngylch Tref Lundain' (ff. 10-12 verso) mewn pamffled, Dwy o Gerddi Newyddion ([Caer]: Thomas Huxley, [?1791]) (JHD 209bii; heb ei gofnodi yn ESTC). Nodwyd ar f. 8 bod 'Cerdd yn dangos meddyliau Morwyn Ieuangc ddydd ei phriodas' (ff. 8-10) wedi ei gyhoeddi yn Llundain ym 1797 ond ymddengys nad oes copi wedi ei gadw. Ceir cerdd arall [?mewn llaw wahanol] ar ff. 128 verso-129. Mae eitemau a ddarganfyddwyd yn rhydd ar gychwyn y gyfrol wedi eu tipio i mewn ar ff. i-iv; yn eu mysg mae rhestr o gynnwys y llawysgrif (f. i), marwnad brintiedig i William Owen Pughe gan John Jones (Tegid), 1836 (f. iii), a chyfres o englynion gan Siôn ap Morgan (f. iv). = Nine of the poems (ff. 6 verso-8, 16-18, 22-25, 31 verso-35 verso, 36 verso-39 verso) appear in Cerddi Jac Glan-y-gors, ed. by E. G. Millward (Llandybïe, 2003), pp. 26-30, 45-51, 57-58, 69-70, 76-81, 95-97, 137-138; 'Litani Newydd...' (f. 15 recto-verso) and 'Englynion er coffadwriaeth am Mr David Samwell...' (ff. 20 verso-21 verso) were published in The Chester Chronicle, 5 August 1796 and 28 December 1798 respectively (see Marion Löffler, 'Cerddi newydd gan John Jones, "Jac Glan-y-Gors"', Llên Cymru, 33 (2010), 143-150); 'Cerdd o ymddiddan rhwng J. J. Glan y Gors a Daniel Davies o Gorwen y ngylch Tref Lundain' (ff. 10-12 verso) was published in the pamphlet Dwy o Gerddi Newyddion ([Chester]: Thomas Huxley, [?1791]) (JHD 209bii; not recorded in ESTC). A note on f. 8 states that 'Cerdd yn dangos meddyliau Morwyn Ieuangc ddydd ei phriodas' (ff. 8-10) was published in London in 1797 but there are no known copies extant. A further poem [?in a different hand] is on ff. 128 verso-129. Items found loose at the beginning of the volume have been tipped in on ff. i-iv; these include a list of contents of the manuscript (f. i), a printed elegy for William Owen Pughe by John Jones (Tegid), 1836 (f. iii), and a series of englynion by Siôn ap Morgan (f. iv).

Jones, John, 1766-1821