Mae'r fonds yn cynnwys dwy gyfrol, 1937-1961, yn cofnodi'r niferoedd a oedd yn bresennol yn nosbarthiadau'r Ysgol Sul, Capel Hermon, Llanfachreth, manylion am eu gweithgareddau yno a chyfanswm y casgliadau; nifer o 'lyfrau'r athro' a gedwid gan athrawon yr Ysgol Sul, 1959-1968, yn rhestri enwau'r plant o fewn y dosbarthiadau unigol a manylion am eu presenoldeb; ynghyd â llyfr cyfrifon, 1912-1927, yn cofnodi cyfraniadau'r aelodau at wahanol gasgliadau a chyfres o holiaduron, 1916-1929, yn rhoi manylion am y capel a'r aelodau.