Showing 8 results

Archival description
Papurau William Williams, Llangynog,
Print preview View:

Llyfr nodiadau, 1871-88, gan gynnwys pryddest ar yr Apostol Paul; sylwadau, 1884, ar rannau o lythyr Paul at y Rhufeiniaid ...,

Llyfr nodiadau, 1871-88, gan gynnwys pryddest ar yr Apostol Paul; sylwadau, 1884, ar rannau o lythyr Paul at y Rhufeiniaid; cofnodion ar ffurf dyddiadur, 1885-6; a thraethawd 'Rhwymedigaeth yr Eglwys', Eisteddfod Llangyndeyrn, Pasg 1911; yng nghefn y gyfrol ceir ymdriniaeth ar 'Y meddwon sydd â hanes amdanynt yn y Beibl', 1880, a cherdd 'Diniweidrwydd', buddugol yng nghyfarfod cystadleuol Siloh, Llanelli, 1888.

Llungopïau o ffotograffau o aelodau teulu William Williams a manylion bywgraffyddol amdanynt, sef William Williams, ei rieni John a Margaret ...,

Llungopïau o ffotograffau o aelodau teulu William Williams a manylion bywgraffyddol amdanynt, sef William Williams, ei rieni John a Margaret Williams, a John a Martha James, rhieni ei wraig Eliza; ynghyd â darlith Eluned Jones 'Creiriau a gwreiddiau a chysylltiadau', 1995, y bu hi'n ei thraddodi i gymdeithasau lleol.

Llyfr nodiadau, 1879-85, gan gynnwys ymdriniaethau diwinyddol ar Efengyl Mathew Pennod 4: 19-20, a Llythyr at yr Hebreaid Pennod 12 ...,

Llyfr nodiadau, 1879-85, gan gynnwys ymdriniaethau diwinyddol ar Efengyl Mathew Pennod 4: 19-20, a Llythyr at yr Hebreaid Pennod 12: 1-2, cerddi Beiblaidd gan gynnwys 'Y wraig a'r ddwy hatling', Y Greal, Chwefror 1881, 'Crist yn marchogaeth i Jerusalem', Y Greal, 1881, a 'Chwech pennill ar "Troedigaeth Saul"', Y Bedyddiwr Cymraeg, 1885; cerddi ar gyfer achlysuron cymdeithasol gan gynnwys ymadawiad ei gyfaill B. Thomas i'r Amerig a gyhoeddwyd yn y South Wales Press, 1881; a llythyr at olygydd Seren Cymru, 1885.

Ysgrifau, heb ddyddiad, yn cynnwys: 'Athraw'r Ysgol Sul'; 'Cadw'r Disgyblion'; 'Rhai Cymeriadau r'wyn cofio yn Ebenezer Llangynog' gan ganolbwyntio ar ...,

Ysgrifau, heb ddyddiad, yn cynnwys: 'Athraw'r Ysgol Sul'; 'Cadw'r Disgyblion'; 'Rhai Cymeriadau r'wyn cofio yn Ebenezer Llangynog' gan ganolbwyntio ar ei dad John Williams a oedd yn forwr adeg Rhyfel y Crimea; rhan o ysgrif ar arferion priodas yn cynnwys ffeithiau am y neithior ac un am ysgol elusennol Madam Bridget Vaughan, Llangynog; ac ysgrif anghyflawn, heb deitl, yn ymwneud â dyletswyddau athrawon Ysgol Sul.

Papurau William Williams, Llangynog,

  • GB 0210 WILGYNOG
  • fonds
  • 1864-1995 /

Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifau yn dwyn y teitl 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', sy'n cyfeirio at ddefnydd o'r 'Welsh Not'; llyfrau nodiadau a gadwyd gan William Williams,1871-1888, yn cynnwys nodiadau ysgrythurol; ysgrifau heb ddyddiad; llyfr nodiadau yn cynnwys adroddiad heb ddyddiad am ordeinio'r Parch. D. R. Jones yn weinidog Bethania, Llanelli; a ffotograffau, ynghyd â manylion bywgraffyddol am aelodau o'r teulu Williams, ynghyd â darlith perthynol gan Eluned Jones. = The collection comprises writings entitled 'Yr Hen Ysgol - 1864-1867', referring to the use of the 'Welsh Not'; notebooks kept by William Williams, 1871-1888, containing scriptural notes; undated writings; a notebook containing an undated report of the ordination of Rev. D. R. Jones at Bethania, Llanelli; and photographs, together with biographical details, of members of the Williams family, together with a related lecture by Eluned Jones.

Williams, William, 1856-1936.