Showing 11 results

Archival description
Papurau D. J. Roberts,
Print preview View:

Papurau D. J. Roberts,

  • GB 0210 DJROBERTS
  • fonds
  • [c. 1833]-1977 (crynhowydd [20fed ganrif]) /

Papurau y Parch. D.J. Roberts, c. 1833-1977,yn cynnwys deunydd a defnyddiodd wrth ymchwilio i hanes Capel Mair, ac a gyhoeddwyd dan y teitl Capel Mair, Aberteifi (Llandysul,1955), a hefyd gohebiaeth a nodiadau, 1905-1971, yn ymwneud â bywgraffiad o Dr Peter Price, a gyhoeddwyd dan y teitl Cofiant Peter Price (Abertawe, 1970), ynghyd â deunydd, 1974-1977, yn ymwneud â threfnu'r eisteddfod genedlaethol yn Aberteifi = Papers of the Rev. D. J. Roberts, 1833-1977, comprising materials used in his research on the history of Capel Mair, which was published as Capel Mair, Aberteifi (Llandysul, 1955), and also correspondence and notes, 1905-1971, relating to his biography of Dr Peter Price, published as Cofiant Peter Price (Swansea, 1970), together with material, 1974-1977, relating to the organisation of the 1976 national eisteddfod at Cardigan.

Roberts, D. J. (David John).

Llythyrau a nodiadau, 1948-49, a dderbyniwyd wrth baratoi'r traethawd 'Hanes Bywyd a Gwaith Dr. Peter Price', buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol ...,

Llythyrau a nodiadau, 1948-49, a dderbyniwyd wrth baratoi'r traethawd 'Hanes Bywyd a Gwaith Dr. Peter Price', buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949; llythyrau a nodiadau, 1969-70, a dderbyniodd tra'n helaethu'r traethawd yn gofiant; a llythyrau, 1970-71, a dderbyniodd ar "l cyhoeddi'r gyfrol. Ceir un llythyr, 1929, oddi wrth Dr. Peter Price at ei frawd yn amgaeëdig ac ymhlith y gohebwyr y mae Iorwerth C. Peate (2) 1969-70, a T.E. Nicholas (1) 1969.

Defnyddiau, c. 1833-1977, yn ymwneud â Chapel Mair, eglwys yr Annibynwyr Cymraeg, Aberteifi, a gasglwyd yn bennaf ar gyfer ysgrifennu ...,

Defnyddiau, c. 1833-1977, yn ymwneud â Chapel Mair, eglwys yr Annibynwyr Cymraeg, Aberteifi, a gasglwyd yn bennaf ar gyfer ysgrifennu Capel Mair, Aberteifi (Llandysul, 1955). Yn eu plith ceir drafft teipysgrif o'r gyfrol (1/9); hen ddarluniau o'r capel, o 1833 ymlaen (1/12); llythyr, 1930au, a phenillion, 1910, gan y Parch T. Esger James (1/4); a drafft llawysgrif o Llawlyfr Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg Aberteifi a'r Cylch (1970) a olygwyd gan y rhoddwr, yn cynnwys braslun o hanes Annibynwyr Gogledd Penfro a De Aberteifi (1/10).