Showing 14 results

Archival description
Papurau Frank Jones,
Print preview View:

Llythyrau, cardiau a thelegramau, 1942-1943, at Frank Jones, y rhan fwyaf ohonynt yn mynegi cefnogaeth a dymuniadau da iddo cyn ...,

Llythyrau, cardiau a thelegramau, 1942-1943, at Frank Jones, y rhan fwyaf ohonynt yn mynegi cefnogaeth a dymuniadau da iddo cyn ei ymddangosiad gerbron Llys Ynadon St Helens, Rhagfyr 1942. Ymysg y gohebwyr, ceir llythyrau oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog (6/2), Robert Evans ('Cybi'), Chwilog (6/4), a William Jones, Tremadog (6/14).

Papurau Frank Jones,

  • GB 0210 FRANES
  • fonds
  • 1932-1944 /

Papurau Frank Jones, Llanrwst, sir Gaernarfon,1932-1944, yn cynnwys llyfr nodiadau'n ymwneud â'r ymgyrch yn y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn Gymraeg, a'i ddyddiadur, 17 Ionawr 1941-8 Medi 1942, yn mynegi ei argraffiadau o gyfnod rhyfel fel heddychwr a chenedlaetholwr; gohebiaeth,1936-1944, yn cynnwys ei gais, 1940, i gael ei gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol ar sail bod yn genedlaetholwr o Gymro. = Papers of Frank Jones, Llanrwst, Caernarfonshire, 1932-1944, including a notebook relating to the campaign for Income Tax forms in Welsh in the 1930s, and his diary, 17 January 1941-8 September 1942, containing his impressions of war as a pacifist and nationalist; correspondence, 1936-1944, including his application, 1940, to be registered as a conscientious objector on the grounds of being a Welsh nationalist.

Jones, Frank, 1913-1970

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith ...,

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith Gymraeg; drafft o erthygl gan Frank Jones yn Saesneg dan y penawd 'Cymru am Byth' yn ymdrin â'r ymgyrch dros ffurflenni Treth Incwm Cymraeg, ynghyd â llythyr, 1939, oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog, at Frank Jones yn rhoi ei sylwadau ar yr erthygl; drafft o anerchiad, c. 1942, yn Saesneg gan Frank Jones ar Blaid Genedlaethol Cymru a'i hamcanion; a thorion amrywiol o'r wasg.

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i gael ei gofrestru'n wrthwynebydd cydwybodol ar dir cenedlaetholdeb Cymreig ac â'i wrthwynebiad yn 1942 i wasanaethu yn y Gwarchodlu Cartref. Ymhlith y papurau ceir 5 llythyr, 1942, oddi wrth J. E. Jones at Frank Jones, copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones a chopi o'i ddatganiad i'r llys pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon St Helens, Rhagfyr 1942, am beidio ymuno â'r Gwarchodlu Cartref ym Mhorthmadog.

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i orchymyn i ymaelodi yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, pan wrthodwyd yr hawl iddo ddadlau ei achos yn Gymraeg. Ymysg y papurau ceir copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones, llythyrau ato oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog (1), Syr Henry Morris-Jones, AS (1) a J. E. Jones (2), a drafft o ddatganiad Frank Jones i'r llys.