Showing 12 results

Archival description
Papurau'r Athro Stephen J. Williams file
Advanced search options
Print preview View:

Dyletswyddau cyhoeddus

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau amrywiol yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus yr Athro Stephen J. Williams gan gynnwys llythyrau, cylch-lythyrau ac ymatebion i'r cylch-lythyrau, yn ymwneud â chronfa goffa R. Williams Parry; llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon y rhaglen 'Learning Welsh' gan y BBC; papurau ynglŷn â'i weithredoedd dros yr iaith Gymraeg sydd yn cynnwys y llyfryn Education in Wales/Addysg yng Nghymru 1847-1947, gyda nodiadau araith ar gyfer cyfarfodydd Ysgol Pasg Pwyllgor Addysg Abertawe, a thorion papur newydd yn sôn am y cyfarfodydd; nodiadau ac areithiau cyfan ar wahanol agweddau o ddiogelu'r iaith Gymraeg; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau â'r Eisteddfod Genedlaethol; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe; ynghyd â llythyr a chrynodeb wedi eu hysgrifennu ganddo ar ran Brynley Richards yn ei enwebu ar gyfer cael ei ystyried i dderbyn gradd er anrhydedd.

Dyletswyddau golygyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau yn ymwneud â dyletswyddau golygyddol yr Athro Stephen J. Williams, [c.1949]-1973, gan gynnwys copi teipysgrif o Cerdd Rolant (wedi ei throi i'r Gymraeg gan T. Hudson Williams); copi teipysgrif o Ysgrifau a Cherddi D. Edgar Jones (Aer Myfyr) 1882-1968; a llythyrau oddi wrth Gwasg Prifysgol Cymru a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd ynglŷn â golygu Drych yr Amseroedd gan Dr Glyn Ashton.

Diddordeb ieithyddol a gramadegol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwaith yr Athro Stephen J. Williams fel ieithydd a gramadegydd, [1921-1992], gan gynnwys llythyrau oddi wrth y BBC yn holi am gyngor am ba eiriau Cymraeg i'w defnyddio mewn chwaraeon, ynghyd â rhestr o dermau criced a rhestr o dermau chwaraeon; copi o gyfieithiad Brythoneg o Welsh made Easy; a rhestr o enwau lleoedd.

Cerddi

Mae'r ffeil hon yn cynnwys cerddi amrywiol yn ei feddiant neu wedi eu hysgrifennu neu eu copïo ganddo, [1921]-[1992].

Erthyglau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthyglau wedi eu hysgrifennu gan yr Athro Stephen J. Williams ar wahanol lenorion megis T. Gwynn Jones, Robert ap Gwilym Ddu, Alun (John Blackwell) a William Salesbury, [1921]x[1992].

Papurau llenyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol, [1921]-[1992], yn bennaf Ystorya de Carolo Magno, The Book of Blegored a Beginner's Welsh.

Llythyrau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau, 1933-1992, ynglŷn â materion megis siarad a dysgu'r Gymraeg ac enwau lleoedd; llythyrau yn holi am ei gyngor proffesiynol, llythyrau oddi wrth Evans a Short yn trafod ei lyfrau, a nifer o lythyrau personol eu naws.

Papurau teuluol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau teuluol, megis llyfr cyfrifon yn llawn nodiadau amrywiol yn cyfeirio at 'Explosives Diamond Colliery', cyfrifon cyfraniad gweithiwyr y glofa i Ysbyty Abertawe, cyfrifion a chofnodion y Pwyllgor Protestiadau Gŵyl Fai, penillion, rhan o sgript, a chofnodion ynglŷn â chael festri newydd (nid yw'n glir ar gyfer pa eglwys); dau lyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau pregethau; a llyfr cyfrifon Capel Sardis, Ystradgynlais, 1917-1921, a ddaeth i law'r Athro Stephen J. Williams, o bosib oddi wrth ei dad a oedd yn ddiacon yn y Capel.

Capel Henrietta, Abertawe

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Henrietta, Abertawe, gan gynnwys llyfr y trysorydd 1903-1915, a ddefnyddiwyd eto yn 1929 i nodi casgliadau arbennig, ac yna i restru unigolion a oedd o bosib i ddod i gyfarfod a gynhaliwyd yn yr Eglwys yn 1948. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd gopi o Y Tyst sydd â stori ar y dudalen flaen yn sôn bod yr Athro Stephen J. Williams, a oedd yn ddiacon yng Nghapel Henrietta, wedi cael ei wneud yn is-gadeirydd yr Undeb.

Capel Henrietta (Swansea, Wales)

Amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys eitemau amrywiol oedd o bosib yn eiddo'r Athro Stephen J. Williams, er nad yw hynny yn glir, [1896]-[1992].