Showing 15 results

Archival description
Papurau'r Athro Stephen J. Williams
Print preview View:

Dyletswyddau cyhoeddus

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau amrywiol yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus yr Athro Stephen J. Williams gan gynnwys llythyrau, cylch-lythyrau ac ymatebion i'r cylch-lythyrau, yn ymwneud â chronfa goffa R. Williams Parry; llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon y rhaglen 'Learning Welsh' gan y BBC; papurau ynglŷn â'i weithredoedd dros yr iaith Gymraeg sydd yn cynnwys y llyfryn Education in Wales/Addysg yng Nghymru 1847-1947, gyda nodiadau araith ar gyfer cyfarfodydd Ysgol Pasg Pwyllgor Addysg Abertawe, a thorion papur newydd yn sôn am y cyfarfodydd; nodiadau ac areithiau cyfan ar wahanol agweddau o ddiogelu'r iaith Gymraeg; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau â'r Eisteddfod Genedlaethol; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe; ynghyd â llythyr a chrynodeb wedi eu hysgrifennu ganddo ar ran Brynley Richards yn ei enwebu ar gyfer cael ei ystyried i dderbyn gradd er anrhydedd.

Erthyglau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthyglau wedi eu hysgrifennu gan yr Athro Stephen J. Williams ar wahanol lenorion megis T. Gwynn Jones, Robert ap Gwilym Ddu, Alun (John Blackwell) a William Salesbury, [1921]x[1992].

Papurau personol

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys papurau personol yr Athro Stephen J. Williams, megis ei bapurau ysgol; papurau yn ymwneud â chapel Henrietta, Abertawe, a llyfrau cyfrifon eraill.

Papurau teuluol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau teuluol, megis llyfr cyfrifon yn llawn nodiadau amrywiol yn cyfeirio at 'Explosives Diamond Colliery', cyfrifon cyfraniad gweithiwyr y glofa i Ysbyty Abertawe, cyfrifion a chofnodion y Pwyllgor Protestiadau Gŵyl Fai, penillion, rhan o sgript, a chofnodion ynglŷn â chael festri newydd (nid yw'n glir ar gyfer pa eglwys); dau lyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau pregethau; a llyfr cyfrifon Capel Sardis, Ystradgynlais, 1917-1921, a ddaeth i law'r Athro Stephen J. Williams, o bosib oddi wrth ei dad a oedd yn ddiacon yn y Capel.

Capel Henrietta, Abertawe

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Henrietta, Abertawe, gan gynnwys llyfr y trysorydd 1903-1915, a ddefnyddiwyd eto yn 1929 i nodi casgliadau arbennig, ac yna i restru unigolion a oedd o bosib i ddod i gyfarfod a gynhaliwyd yn yr Eglwys yn 1948. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd gopi o Y Tyst sydd â stori ar y dudalen flaen yn sôn bod yr Athro Stephen J. Williams, a oedd yn ddiacon yng Nghapel Henrietta, wedi cael ei wneud yn is-gadeirydd yr Undeb.

Capel Henrietta (Swansea, Wales)

Papurau proffesiynol

Ceir yn y grŵp hwn bapurau'n ymwneud â bywyd proffesiynol yr Athro Stephen J. Williams fel ysgolhaig, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei waith golygyddol, ei ddiddordeb ieithyddol, ei waith llenyddol ei hun ac adolygiadau o weithiau eraill, yn ogystal â llythyrau gan nifer o ohebwyr ar amrywiol bynciau.

Dyletswyddau golygyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau yn ymwneud â dyletswyddau golygyddol yr Athro Stephen J. Williams, [c.1949]-1973, gan gynnwys copi teipysgrif o Cerdd Rolant (wedi ei throi i'r Gymraeg gan T. Hudson Williams); copi teipysgrif o Ysgrifau a Cherddi D. Edgar Jones (Aer Myfyr) 1882-1968; a llythyrau oddi wrth Gwasg Prifysgol Cymru a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd ynglŷn â golygu Drych yr Amseroedd gan Dr Glyn Ashton.

Amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys eitemau amrywiol oedd o bosib yn eiddo'r Athro Stephen J. Williams, er nad yw hynny yn glir, [1896]-[1992].

Papurau'r Athro Stephen J. Williams

  • GB 0210 STEJWI
  • fonds
  • [1896]-[1992]

Mae'r archif yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwahanol agweddau o fywyd proffesiynol yr Athro Stephen Joseph Williams, sef papurau'n ymwneud â'i ddyletswyddau cyhoeddus, ei swyddogaeth fel golygydd, ei waith ieithyddol a gramadegol, adolygiadau, papurau'n ymwneud â'i waith ysgrifenedig ei hun a llythyrau gan amryw ohebwyr yn bennaf yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol. Ceir hefyd rhai papurau personol, megis papurau'n ymwneud â'i yrfa yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau teuluol.

Papurau ychwanegol yn perthyn i'r Athro Stephen J. Williams. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Williams, Stephen Joseph

Diddordeb ieithyddol a gramadegol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwaith yr Athro Stephen J. Williams fel ieithydd a gramadegydd, [1921-1992], gan gynnwys llythyrau oddi wrth y BBC yn holi am gyngor am ba eiriau Cymraeg i'w defnyddio mewn chwaraeon, ynghyd â rhestr o dermau criced a rhestr o dermau chwaraeon; copi o gyfieithiad Brythoneg o Welsh made Easy; a rhestr o enwau lleoedd.

Cerddi

Mae'r ffeil hon yn cynnwys cerddi amrywiol yn ei feddiant neu wedi eu hysgrifennu neu eu copïo ganddo, [1921]-[1992].

Papurau llenyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol, [1921]-[1992], yn bennaf Ystorya de Carolo Magno, The Book of Blegored a Beginner's Welsh.

Llythyrau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau, 1933-1992, ynglŷn â materion megis siarad a dysgu'r Gymraeg ac enwau lleoedd; llythyrau yn holi am ei gyngor proffesiynol, llythyrau oddi wrth Evans a Short yn trafod ei lyfrau, a nifer o lythyrau personol eu naws.