Showing 19 results

Archival description
Papurau Walter Rees Jones (Birkenhead)
Print preview View:

Tysteb Walter Rees Jones

Ceir o fewn y ffeil bapurau a thorion papur newydd yn ymdrin â chyflwyno tysteb i Walter Rees Jones i gydnabod ei wasanaeth diflino fel ysgrifennydd Eisteddod y G'lomen Wen, Birkenhead, ers 1919. Cyflwynwyd y tysteb iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn ysgoldy Capel Parkfield, 3 Ionawr 1930.

'Welsh Notes'

Mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif a wnaed gan Walter Rees Jones o'r golofn 'Welsh Notes' a ymddangosodd yn y Birkenhead News and Advertiser rhwng Mehefin 1956 ac Awst 1960.

Papurau amrywiol Eglwys Parkfield

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol, llawer yn ymdrin ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Parkfield, Birkenhead. Yn eu plith ceir llyfryn ar hanes yr achos, 1834-1934, gan P. H. Jones, a theipysgrifau yn Gymraeg a Saesneg ar 'Hanes Dechreuad Achosion y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Birkenhead' gan Walter Rees Jones, 1996-1997.

Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd Parkfield (Liverpool, England)

Llyfr cofnodion eglwysi Cymraeg Birkenhead

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion gofalaeth eglwysi Salem, Birkenhead, a Wallasey, 1974-1981, gan gynnwys eglwysi Ellesmere Port, 1981; ynghyd â chofnodion gofalaeth y Glannau: eglwysi Salem, Stanley Road, Waterloo a Wallasey, 1984-1985.

Eglwys Bresbyteraidd Cymru Salem (Birkenhead, England)

Cymdeithas Cymry Birkenhead

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion yn ymdrin â gweithgareddau Cymdeithas Cymry Birkenhead, yn eu plith rhaglenni blynyddol, 1968-2001, rhaglenni cymanfaoedd canu undebol a gwasanaethau o fawl, 1980-2001, rhaglenni cinio dathlu Gŵyl Ddewi, 1983-2001, trefn oedfaon crefyddol, 1983-2001, cylchlythyrau at aelodau'r Gymdeithas, 1969-2000, a chyfrifon ariannol, 1989-2000.

Cymdeithas Cymry Birkenhead

'Spotlight on Wales in Birkenhead'

Mae'r gyfrol yn cynnwys toriadau o'r golofn 'Spotlight on Wales in Birkenhead' a luniwyd gan Walter Rees Jones ac a ymddangosodd yn y Birkenhead News rhwng Medi 1947 a Chwefror 1956. Ceir o fewn y gyfrol hefyd ychydig o dorion amrywiol eraill a nifer fechan o lythyrau at W. Rees Jones yn ystod yr un cyfnod.

Papurau Walter Rees Jones (Birkenhead)

  • GB 0210 WAREJO
  • fonds
  • 1883-2001 (accumulated [1950]-2001)

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion amrywiol a gasglwyd ynghyd gan Walter Rees Jones (ynghyd ag ambell eitem a etifeddodd oddi wrth ei dad Rees Jones) yn ymdrin â bywyd Cymraeg Birkenhead. Ceir yn eu plith cofnodion eglwysi anghydffurfiol, 1883-1997; papurau'n ymwneud ag eisteddfodau, 1918-1969; cofnodion Cymdeithas Cymry Birkenhead, 1968-2001; a thorion papur newydd a theipysgrifau o'r wasg, 1947-1960, a theyrngedau a thaflenni angladdol, 1953-2001.

Jones, Walter Rees, 1922-2001