Showing 4 results

Archival description
Papurau Ymchwil Dr David Jenkins, Penrhyn-coch, Parry, Thomas, 1904-1985 file
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau, 1980-1984,

Ymhlith y gohebwyr, 1980-1984, mae [J.] Gwynn [Williams], R. Geraint Gruffydd (6), Elwyn Davies (2), Kate Roberts (2), Ifor ap Gwilym (2), John Grigg (2), Bobi Jones, Jennie Eirian [Davies] (2), Tom [Parry], Owen [Edwards], Glanmor [Williams], Keith Joseph, Gwilym [Prys Davies], Caerwyn [Williams], John Morris, Ken [Morgan], [D.] Ellis [Evans], A. J. [Sylvester] (5, yr ail un i R. Geraint Gruffydd), Derwyn [Jones] a T. Alwyn Benjamin.

Williams, J. Gwynn

Llythyrau, 1976-1979,

Ymhlith y gohebwyr, 1976-1979, mae Melvyn Rosser, George Thomas, [D.] Ellis [Evans], Edmund-Davies, John Grigg, Elwyn Davies, Kate Roberts (3), Ieuan Gwynedd Jones, Glyn Jones, Emrys [Bowen], Bryn [Roberts], Alun Creunant Davies, Tom Owen, R. Brinley Jones, Alun Talfan Davies, [R.] Bryn [Williams] a Tom [Parry]. Mae rhai o'r llythyrau yn ei longyfarch wedi iddo gael ei anrhydeddu â'r CBE yn 1977, a gradd DLitt gan Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1978.

Rosser, Melvyn, Sir, 1926-2001.

Llythyrau, 1970-1975,

Ymhlith y gohebwyr mae Gwilym Prys Davies, Eirene White, Dr Emyr Wyn Jones, Iorwerth [Peate] (3), Llywelyn ap Gwynn, Rhys Davies, [R.] Geraint Gruffydd (2), Bobi Jones, Aneirin Talfan Davies, R. S. Thomas, T[homas] P[arry] (2), Glyn [Tegai Hughes], Kitty Idwal Jones, Idris [Foster] (3), Bedwyr Lewis Jones, Alun Talfan Davies, A. J. Sylvester (2), Mathonwy Hughes, Arthur [ap Gwynn] a Raymond Edwards.

Prys-Davies, Gwilym Prys Davies, Baron, 1923-2017

Gwasg Gregynog,

Papurau ymchwil, [1962]-2001, yn ymwneud â Gwasg Gregynog, Tregynon, Powys, gan gynnwys drafftiau o dair pennod cyntaf ei lyfr arfaethedig ar hanes y wasg a darlithiau a draddodwyd ganddo (gweler hefyd ei erthygl 'Gwasg Gregynog', Llais Llyfrau, Gaeaf 1966). Ceir llythyrau oddi wrth Elwyn [Davies], 1975 a Tom Parry, 1976, yn cynnig awgrymiadau ieithyddol i'w waith a llythyrau, 1990 a 2000, oddi wth Glyn [Tegai Hughes] yn ymwneud â chyhoeddi'r astudiaeth. Yn ogystal ceir llythyrau, 1976, oddi wrth Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymwneud â'i waith cyfieithu ar gyfer llyfryn a pharatoi penawdau i gyd-fynd â'r arddangosfa deithiol ar Wasg Gregynog a drefnwyd gan Adrannau Celfyddyd a Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â rhestr termau.

Davies, Elwyn, 1908-1986