Dangos 25 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau William Owen Jones, Lerpwl
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Toriadau o'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. O. Jones ac eraill, 1888-1901, ynglŷn â Phwnc y Tir, ymddiriedolaeth elusennol Waunfawr 1893, 'Cymry yn y Senedd', ac etholiad Bwrdeistref Arfon 1888, ynghyd ag erthyglau gwleidyddol, crefyddol a llenyddol gan W. O. Jones ac eraill, ac hefyd adroddiadau, sylwebaeth a gohebiaeth ynglŷn â'r anghydfod rhwng W. O. Jones ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghapel Chatham Street, Lerpwl, 1900-1901, gan gynnwys ei amddiffyniad ohono'i hun ar dudalennau Y Cymro.

Free Church of the Welsh (Liverpool)

Pregethau

Mae'r gyfres yn cynnwys pregethau, 1907-1935, ar destunau o'r Beibl gyda nodiadau achlysurol ar fan a dyddiad eu cyfansoddi a'u pregethu.

Papurau William Owen Jones, Lerpwl

  • GB 0210 JONWILOW
  • fonds
  • 1888-1936

Mae'r fonds yn cynnwys casgliad o gyfrolau yn llaw y Parchedig William Owen Jones, 1861-1937, gweinidog eglwys Methodistiaid Calfinaidd, Chatham Street, ac wedi hynny Eglwys Rydd y Cymry, yn Lerpwl, gan gynnwys pregethau a nodiadau, anerchiadau, dyddiaduron a thoriadau o'r wasg.

Jones, W. O. (William Owen), 1861-1937

Gweddïau ac anerchiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys gweddïau ar gyfer dechrau oedfa, anerchiadau ar destunau Beiblaidd, anerchiad am Dr James Ward, darlithoedd yn cynnwys 'Dealltwriaeth anifeiliaid' ac 'Y Gwir a'r Gau', a nodiadau darlithoedd.

Ward, James, 1843-1925

'Fy hen athrawon'

Mae'r ffeil yn cynnwys 'Anerchiadau a draddodwyd i gymdeithas lenyddol Canning St': sef ysgrifau hunangofiannol gan W. O. Jones am ei ddyddiau ysgol a'u gyfnod yng Ngholeg y Bala.

Canning Street chapel (Liverpool)

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron sy'n rhoi manylion am weithgareddau beunyddiol, iechyd a theimladau'r awdur ynghyd â chyfeiriadau at fusnes Capeli Chatham Street, Hope Street a Canning Street a digwyddiadau cyfoes yn Lerpwl, Cymru a'r byd.

Chatham Street Chapel (Liverpool, England)

Canlyniadau 1 i 20 o 25