Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau William Owen Jones, Lerpwl Cyfres
Rhagolwg argraffu Gweld:

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron sy'n rhoi manylion am weithgareddau beunyddiol, iechyd a theimladau'r awdur ynghyd â chyfeiriadau at fusnes Capeli Chatham Street, Hope Street a Canning Street a digwyddiadau cyfoes yn Lerpwl, Cymru a'r byd.

Chatham Street Chapel (Liverpool, England)

Pregethau

Mae'r gyfres yn cynnwys pregethau, 1907-1935, ar destunau o'r Beibl gyda nodiadau achlysurol ar fan a dyddiad eu cyfansoddi a'u pregethu.

Toriadau o'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. O. Jones ac eraill, 1888-1901, ynglŷn â Phwnc y Tir, ymddiriedolaeth elusennol Waunfawr 1893, 'Cymry yn y Senedd', ac etholiad Bwrdeistref Arfon 1888, ynghyd ag erthyglau gwleidyddol, crefyddol a llenyddol gan W. O. Jones ac eraill, ac hefyd adroddiadau, sylwebaeth a gohebiaeth ynglŷn â'r anghydfod rhwng W. O. Jones ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghapel Chatham Street, Lerpwl, 1900-1901, gan gynnwys ei amddiffyniad ohono'i hun ar dudalennau Y Cymro.

Free Church of the Welsh (Liverpool)