Dangos 31 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Cylchlythyrau

Mae'r ffeil yn cynnwys cylchlythyrau Cronfa Goffa Saunders Lewis yn bennaf, gyda newyddion ynglŷn â gweithgareddau'r Pwyllgorau Sirol i gasglu arian at y Gronfa, hysbysebion am yr Ysgoloriaeth, torion papur a llythyron ynglŷn ag amodau ceisiadau am yr Ysgoloriaeth.

Gohebiaeth a phapurau cyffredinol

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â'r Apêl, megis llythyron cyffredinol ynglŷn â sefydlu Pwyllgor Rheoli'r Gronfa Goffa; llythyron Pwyllgor Sir Gaernarfon; gohebiaeth y Pwyllgorau ac Isbwyllgorau; llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r gronfa gan gynnwys gohebiaeth â'r noddwyr; papurau yn ymwneud â lansio'r Apêl; a datganiadau i'r wasg er mwyn hysbysebu'r Apêl.

Gohebiaeth gyffredinol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1989-2002, Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa J. Saunders Lewis, ynghyd â'r llythyr gwreiddiol, dyddiedig 28 Mai 1986, at Mrs Mair Jones, merch Saunders Lewis, yn trafod y bwriad o godi cronfa genedlaethol er mwyn sefydlu Ysgoloriaeth i goffáu ei thad.

Gohebiaeth Pwyllgor Sir Gaernarfon

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, y mwyafrif yn lythyron, a hefyd cofnodion pwyllgor a phapurau amrywiol eraill, 1992-1994, Cangen Sir Gaernarfon o Gronfa Goffa Saunders Lewis. Sefydlwyd y gangen yn sgil y cais a gafwyd gan Bwyllgor Rheoli Canolog y gronfa am gefnogaeth gan bwyllgorau sirol i gasglu arian tuag at yr apêl.

Gohebiaeth: rhaglen deyrnged i Saunders Lewis

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyron yn ymwneud â chyflwyno rhaglen deyrnged i Saunders Lewis yn y Babell Lên yn Eisteddfod Llanelwedd, 1993, ynghyd â chopi o ddarlith gan Emyr Humphreys yn dwyn y teitl Theatr Saunders Lewis a gyhoeddwyd gan Cymdeithas Theatr Cymru, 1979.

Gohebiaeth y Trysorydd

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth y Trysorydd, Alun Creunant Davies â Dr Meredydd Evans, Ysgrifennydd, y ddau yn swyddogion Cronfa Goffa Saunders Lewis, ynglŷn â sefyllfa ariannol y gronfa ganolog, 1990-1994.

Gohebiaeth yn ymwneud â chyngerdd yng Nghaergrawnt

Mae'r amlen yn cynnwys llythyron, 1991, yn ymwneud â chyngerdd teyrnged a drefnwyd gan Gôr Americanaidd i Dr George Guest ar ei ymddeoliad fel Corfeistr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt. Derbyniodd Cronfa Goffa Saunders Lewis swm sylweddol o arian o ganlyniad i'r cyngerdd ar ôl i Dr Guest enwebu elusen o'i ddewis i dderbyn elw'r noson.

Canlyniadau 1 i 20 o 31